Cronfa Cydnerthedd Cymunedol

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 18 Awst 2023
Community Resilience Fund

Mae cronfa newydd wedi'i lansio gan Gyngor Torfaen i helpu grwpiau a sefydliadau sy'n cefnogi cymunedau i fod yn fwy hunangynhaliol. 

Mae'r cynllun Grantiau Cydnerthedd Cymunedol yn cynnig grantiau o rhwng £500 a £15,000 ar gyfer prosiectau newydd neu brosiectau sydd eisoes yn bodoli.

Gall y rhain gynnwys mentrau sy'n helpu cymunedau gyda chostau byw, fel hybiau cynnes a banciau bwyd, prosiectau sy'n ceisio gwella lles a'r rhai sy'n galluogi cymunedau i ddod o hyd i'w hatebion eu hunain. 

Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau,: "Nod y gronfa hon yw cefnogi partneriaid trydydd sector a phartneriaid cymunedol sydd yn y sefyllfa orau i ddeall yr heriau sy'n wynebu cymunedau unigol.

"Gwelsom y dull hwn yn gweithio'n dda y gaeaf diwethaf pan gynigiwyd cymorth ariannol i grwpiau sy'n rhedeg hybiau cynnes i drigolion lleol sy'n cael trafferth talu biliau ynni uchel. Roedd llawer o'r hybiau hyn yn cynnig cymorth cymunedol mawr ei angen, gan gynnwys talebau banc bwyd a chyngor ar faterion ariannol a lles, a all hefyd helpu pobl yn y tymor hir. 

"Mae'n fodel yr ydym yn bwriadu ei ddatblygu fel rhan o strategaeth newydd ar gyfer cymunedau, fydd yn helpu i daro’r targedau a nodir yn y trydydd amcan llesiant yng Nghynllun Sirol y Cyngor." 

Mae'r Gronfa Cydnerthedd Cymunedol wedi derbyn £260,000 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. 

Gall sefydliadau wneud cais am grantiau cyfalaf o hyd at £10,000 i wella adeiladau neu brynu offer, yn ogystal â grantiau refeniw gwerth hyd at £5,000 i drefnu gweithgareddau.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mercher 20 Medi. I gael mwy o wybodaeth neu i ofyn am ffurflen gais, e-bostiwch communityresiliencegrants@torfaen.gov.uk.

Gallwch ddarllen mwy am naw amcan llesiant y Cynllun Sirol ar ein gwefan. Gallwch hefyd ddarganfod sut y byddant yn cael eu cyflawni yn rhaglenni cyflawni blynyddol y Cynllun Sirol.    

Mae cronfa ar wahân yn cynnig Grantiau Cydlyniant Cymunedol o hyd at £2,000 i grwpiau cymunedol neu fudiadau trydydd sector hefyd ar agor i dderbyn ceisiadau.

Nodiadau i Olygyddion: 

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog yn agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac mae'n darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiadau lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y gronfa yw gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnes, pobl a sgiliau yn lleol. Mwy o wybodaeth am y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Diwygiwyd Diwethaf: 06/09/2023 Nôl i’r Brig