Agor Grant Cydlyniant Cymunedol

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11 Awst 2023
Community

Mae grant sy’n anelu at ariannu prosiectau sy’n dod â chymunedau ynghyd, wedi agor.

Mae’r Grant Cydlyniant Cymunedol, ar gyfer hyd at £2000, ar agor i unrhyw grŵp cymunedol, ysgol neu fudiad trydydd sector yn Nhorfaen, Blaenau Gwent a Chaerffili.

Dyma gynllun grant ar gyfer prosiectau sy’n mynd ati i herio gwahaniaethu, hyrwyddo cynhwysiant a darparu cyfleoedd i bobl sydd efallai ddim yn dod at ei gilydd i gwrdd ac i ddathlu ble maen nhw’n byw, fel arfer.

Y llynedd, roedd dros 90 o blant o Glwb Rygbi Iau Blaenafon wedi elwa trwy gymryd rhan mewn Diwrnod Blasu Cymunedol Tonga, a oedd yn hyrwyddo cynhwysiant a gwahaniaethau, er mwyn atal rhagfarn ymhlith plant o oed ifanc.

Fe fu’r plant yn profi eu sgiliau coginio trwy goginio bwydydd traddodiadol o Tonga, yn chwarae rygbi ac yn trafod diwylliannau rygbi ar y cae ac oddi ar y cae.

Sicrhaodd Grŵp Chwarae Bryn Eithin grant a alluogodd plant i fynd i weld preswylwyr oedrannus mewn cartrefi gofal lleol, a’u difyrru trwy amrywiaeth o gêmau i bontio’r cenedlaethau a pherfformiadau cerddorol.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Gwener 22 Medi 2023 a rhaid cyflawni prosiectau erbyn dydd Mercher 31 Ionawr 2024. 

I ymgeisio neu i gael rhagor o wybodaeth am y grant, cysylltwch â Bridie trwy anfon neges e-bost i Bridie.saunders@torfaen.gov.uk neu ffonio 01633 647223.
Diwygiwyd Diwethaf: 11/08/2023 Nôl i’r Brig