Diwrnod Golff Elusennol i godi'r "ti" yr haf hwn

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 28 Ebrill 2023
Mic Morris Golf Day

Mae yna wahoddiad i bob un sydd wrth eu bodd â golff, y rheiny sy’n colli eu partner i’r golff yn rheolaidd a hyd yn oed amaturiaid, i gymryd rhan yn nigwyddiad Golff Elusennol Mic Morris Torfaen yr haf hwn.

Bydd yr hwyl yn dechrau yng Nghlwb Golff Pont-y-pŵl ddydd Gwener 9 Mehefin, a’r rheiny sy’n cymryd rhan yn chwarae 18-twll llawn o golff. Y nod yw codi arian i Ymddiriedolaeth Mic Morris Torfaen – elusen sy’n cefnogi sêr chwaraeon ac athletwyr ifanc.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i unigolion a thimau ac mae’r chwarae ar ffurf “Texas scramble” cyfeillgar. Er mwyn cystadlu, bydd gofyn bod gan chwaraewyr handicap sydd heb fod yn fwy na 28.

Dyfernir tancardiau gwydr am y Dreif Hiraf a’r Agosaf at y Pin, a thlws o wydr i’r tîm buddugol.

Meddai Christine Vorres, cadeiryddes Cronfa Mic Morris: “Mae’r Digwyddiad Golff Elusennol yn addo bod yn ddiwrnod o gwmnïaeth a chystadleuaeth gyfeillgar ac mae’n un o ddau ddigwyddiad elusennol yr ydym yn eu cynnal eleni yn Nhorfaen a fydd yn codi arian y mae mawr ei angen, i’r Ymddiriedolaeth. 

“Mae’r Ymddiriedolwyr yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a geir gan gwmnïau lleol sy’n gysylltiedig â’r digwyddiadau hyn.  Oherwydd yr argyfwng costau byw sydd ar ein gwarthaf, rydyn ni, fel Ymddiriedolaeth, eisiau cefnogi cymaint o bobl ifanc ag y gallwn ni.”

Mae Cronfa Ymddiriedolaeth Mic Morris yn agored i bobl ifanc ym maes chwaraeon yn Nhorfaen, sydd rhwng 11 a 21 oed, ac sy’n cymryd rhan mewn camp lle maen nhw’n perfformio, yn hyfforddi neu’n cystadlu ar lefel genedlaethol.

Sefydlwyd y gronfa yn 1986 ac mae wedi ei henwi ar ôl plismon lleol a oedd yn athletwr Prydeinig rhagorol. Yn anffodus, bu farw wrth redeg tra’n hyfforddi, yn 24 oed.

Mae tîm Datblygu Chwaraeon Torfaen, sy’n trefnu’r digwyddiad i godi arian, hefyd yn galw ar fusnesau lleol i gefnogi’r digwyddiad trwy roi rhoddion ar gyfer y raffl neu noddi’r tancardiau gwydr neu’r tlws.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cofrestru neu noddi’r digwyddiad, gysylltu â Christine Philpott trwy anfon neges e-bost i christine.philpott@torfaen.gov.uk neu ffonio 01633 628936.

Diwygiwyd Diwethaf: 28/04/2023 Nôl i’r Brig