Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 28 Ebrill 2023
Rydyn ni wedi cael ychydig o drafferth yr wythnos hon gyda’n casgliadau gwastraff gardd a biniau â chlawr porffor, oherwydd problemau gyda’n cerbydau.
Yn anffodus, mae’r cerbydau sy’n casglu gwastraff gardd yn mynd yn hen cyn eu hamser. Rydyn ni’n gweithio’n galed i ddatrys y mater, ond o ran yr aelwydydd hynny nad ydym wedi casglu eu gwastraff gardd yr wythnos hon, yn anffodus ni fyddwn yn gallu dal i fyny dros y penwythnos.
Felly, os nad ydym wedi casglu eich gwastraff gardd yr wythnos hon, ewch â’ch bin i mewn a’i roi allan eto ar eich diwrnod casglu arferol nesaf. Yn anffodus, ni allwn gasglu gwastraff ochr na gwastraff gardd, ond os ydych yn ei chael yn anodd mae croeso i chi ein ffonio ni ar 01495 762200 neu anfon neges e-bost at calltorfaen@torfaen.gov.uk
Ar y llaw arall, os nad ydym wedi casglu eich bin â chlawr porffor yr wythnos hon, cadwch eich bin allan oherwydd mae ein criwiau’n gweithio dros y penwythnos i ddal i fyny.
Mae gennym gynllun ar gyfer y cerbydau ac rydyn ni’n obeithiol iawn y bydd ein gwasanaeth yn gweithredu yn ôl yr arfer yr wythnos nesaf, ond cadwch eich llygaid yn agored am unrhyw gyhoeddiadau.
Rydyn ni’n sylweddoli bod hyn yn newyddion siomedig, ond mae ein gwasanaethau ailgylchu eraill ar gyfer y cartref yn dal i weithredu’n ddidrafferth.
Cewch ddarganfod mwy am ailgylchu yn Nhorfaen trwy glicio ar www.torfaen.gov.uk/recycle #Codi’rGyfradd