Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 25 Ebrill 2023
Mae Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt, wedi cyhoeddi y bydd ymgynghoriad ar gynlluniau i leihau casgliadau gwastraff yn Nhorfaen yn cau’n gynnar.
Wrth siarad mewn cyfarfod o’r Cyngor heddiw, dywedodd y Cyng. Hunt ei fod ef a’r Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd wedi gwrando ar awgrymiadau a phryderon trigolion ac roedden nhw’n barod y gymryd camau amgen i gynyddu cyfraddau ailgylchu gwastraff y cartref, yn unol â tharged Llywodraeth Cymru o 70 y cant erbyn 2025.
Cyhoeddodd hefyd y bydd arolwg newydd yn dechrau fis nesaf er mwyn deall yn well yr heriau y mae rhai trigolion yn eu hwynebu wrth geisio lleihau'r hyn y maen nhw’n ei roi yn y biniau clawr porffor.
Bydd yr adborth o’r ymgynghoriad gwastraff a’r arolwg yn helpu i ysbrydoli’r ymgyrch newydd Codi’r Gyfradd, a fydd yn ceisio cyrraedd 70 o ailgylchu gwastraff y cartref heb newid casgliadau gwastraff y cartref.
Dywedodd y Cyng. Hunt: "Dros yr wythnosau diwethaf, mae miloedd o drigolion wedi cymryd rhan yn y drafodaeth ailgylchu. Yn ein sioeau teithiol rydym wedi clywed gan bobl sydd wedi eu hysgogi’n fawr gan yr her o leihau gwastraff a’r effaith cadarnhaol y bydd hyn yn cael ar yr amgylchedd.
"Ond rydym hefyd wedi clywed gan bobl sy’n pryderu’n wirioneddol am effaith symud at gasgliadau sbwriel pob 3 neu 4 wythnos ac mae nifer o drigolion nad ydynt yn gwybod pa eitemau sydd eisoes yn gallu cael eu hailgylchu pob wythnos.
"Ein nod o hyd yw cyrraedd cyfradd o ailgylchu 70 y cant. Os fethwn ni â chyrraedd 70 y cant erbyn 2025, rydym yn wynebu dirwyon o £100,000 ar gyfer pob 1 y cant yr ydym yn brin a gallai hynny gael effaith ariannol ar holl wasanaethau’r cyngor.
"Os na allwn ni godi’r lefel trwy newid ymddygiad, ni fydd dewis ond ailystyried newidiadau i’r system.
"Ond rwy’n credu ein bod ni i gyd yn gallu gwneud mwy ac yn gallu chwarae rhan ar y cyd i gadw cymaint ag y gallwn allan o’r biniau clawr porffor."
Bydd ymgyrch newydd Codi’r Gyfradd yn cynnwys ymgyrch helaeth o ymgysylltiad cyhoeddus ac addysg, yn ogystal â:
- Cynlluniau ar gyfer mwy o bwyntiau casglu plastig sy’n ymestyn.
- Ymrwymiad i weithio gyda landlordiaid cymdeithasol i gynyddu cyfleusterau ailgylchu mewn fflatiau.
- Gwelliannau i ansawdd y gwasanaeth ailgylchu.
- Buddsoddiad mewn cyfleusterau ailgylchu yn Nhŷ Coch.
Ychwanegodd y Cyng. Mandy Owen, yr aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Rydym eisoes wedi cyhoeddi ymestyn ein gwasanaeth ailgylchu ochr y ffordd, gyda batris yn cael eu casglu nawr yn y blychau ailgylchu du. Ac o Awst ymlaen, byddwn yn symud at gasgliadau cardbord wythnosol ac yn derbyn eitemau trydanol bach.
"Rydym hefyd wedi buddsoddi yn ein cerbydau ailgylchu gan gynnwys technoleg newydd yn y caban ac rydym yn buddsoddi mewn hyfforddiant staff i wella ansawdd y gwasanaeth.
"Rwy’n hyderus y gallwn ni, trwy weithio gyda’n gilydd, gynyddu ein cyfraddau ailgylchu o 62 y cant i 70 y cant, a fydd yn well i’n hamgylchedd a chenedlaethau’r dyfodol."
Os hoffech chi rannu eich barn am ymgyrch Codi’r Gyfradd, gallwch fynd i’r sioeau teithiol cyhoeddus canlynol:
- Dydd Iau 27 Ebrill - Llyfrgell Cwmbrân, 10am - 3pm
- Dydd Mawrth 2 Mai - canol tref Cwmbrân, 10am - 3pm
- Dydd Iau 4 Mai - Canolfan Hamdden Cwmbrân, 5pm - 8pm.
Bydd mwy o sioeau teithiol yn cael eu cyhoeddi.