Celfyddyd gymunedol wedi'i hysbrydoli gan natur

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 23 Tachwedd 2022

Mae celfyddyd newydd wedi’i hysbrydoli gan natur yn ymddangos ledled Gwent i annog pobl i werthfawrogi’r natur sydd i’w chael yn ein cymunedau.

Mae’r darnau wedi’u datblygu fel rhan o’r prosiect Natur Wyllt, sydd â’r nod o gynyddu ymwybyddiaeth yn y dirywiad mewn creaduriaid peillio ac i annog gweithredu lleol, gan gynnwys mabwysiadu dull rheoli dolydd yn rhanbarthol ledled ardal Gwent.

Dros yr haf, mae cymunedau wedi bod yn brysur yn dylunio ac adeiladu gwaith celf mosaig gyda’r artist Stephanie Roberts, sy’n adlewyrchu harddwch natur yn eu mannau gwyrdd lleol.

Lleolir y gwaith celf yn Fairhill, Cwmbrân; Tiroedd Lles Tŷ Du, Tŷ Du; Gilfach, Bargoed a Pharc Bryn Bach, Tredegar.

Mae Fairhill, Cwmbrân yn gartref i gerflun, wedi ei leoli ar stad Cymdeithas Dai Bron Afon ger Canolfan Gymunedol Costar.

Mae Bron Afon yn bartner allweddol i’r prosiect Natur Wyllt, ac mae, mewn partneriaeth â’r Cyngor, wedi bod yn helpu i uno cymunedau Torfaen gyda’i gilydd yn rhwydwaith naturiol, gan ddod â thrigolion yn agosach at fywyd gwyllt ar stepen eu drws.

Mae’r gwaith celf cymunedol newydd yn dathlu’r berthynas rhwng blodau gwyllt, peillwyr a phobl Gwent. Bydd y gwaith yn ganolbwynt dathliad yn y gwanwyn, gan edrych ymlaen at dymor cyffrous o natur o’n blaenau.

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol ar gyfer yr Amgylchedd: “Mae’r gwaith celf newydd yn dathlu’r dull Natur Wyllt a’r effaith bositif y gall ei gael ar fywyd gwyllt a pheillwyr ledled Gwent. Mae torri gwair dethol yn caniatáu i wair a blodau gwyllt ffynnu am gyfnod hirach a chefnogi peillwyr ac ystod ehangach o fywyd gwyllt yn gyffredinol.

“Mae’n wych gweld y prosiect cymunedol yma’n digwydd yn y gymuned, ac roedd yn galonogol iawn clywed faint o bobl a aeth i’r gweithdai i weithio ar y gwaith celf hwn yn ystod yr haf. Mae’n destament nid yn unig i Natur Wyllt, ond hefyd i’r ysbryd cymunedol yn Nhorfaen.

“Mae hefyd yn brosiect gwych i’w nodi yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru, sydd eleni yn canolbwyntio ar gyfranogiad a gweithredu gan y cyhoedd.”

Meddai Rheolwr Lleoedd a Mannau gyda Bron Afon, Simon Morgan:“Rydym yn falch iawn o fod yn bartner yn y gweithgaredd bywyd gwyllt pwysig yma.”

Cefnogir y prosiect celfyddyd cymunedol hwn gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig ac fe’i ariennir gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Llywodraeth Cymru.

Gallwch ddarllen mwy am sut y mae Bron Afon yn rheoli eu tir ar gyfer natur yma: www.bronafon.org.uk/treasured-natural-habitat-curated-by-bron-afon/

Gadewch i ni wybod eich barn ar gynllun y Cyngor i amddiffyn yr amgylchedd lleol a gwella cynaliadwyedd yma: https://getinvolved.torfaen.gov.uk/the-county-plan

Dysgwch sut mae Cyngor Torfaen yn bwriadu gwella cynaliadwyedd dros y 5 mlynedd nesaf yma www.torfaen.gov.uk/cy/AboutTheCouncil/Climate-change/Climate-change-and-nature-emergency.aspx

Dysgwch sut mae Cyngor Torfaen yn delio gyda newid yn yr hinsawdd drwy chwilio am #MeithrinNaturTorfaen a #TorriCarbonTorfaen ar y cyfryngau cymdeithasol.

Diwygiwyd Diwethaf: 17/05/2023 Nôl i’r Brig