Canolfan gwerth miliynau ar agor i'r cyhoedd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 29 Medi 2023
croesy well-being press release

Mae cyfleuster aml-ddefnydd £30 miliwn yn Ysgol Gyfun Croesyceiliog wedi agor i’r cyhoedd.

Mae cyfleuster aml-ddefnydd £30 miliwn yn Ysgol Gyfun Croesyceiliog wedi agor i’r cyhoedd.

Cafodd y datblygiad, sy’n cynnwys neuadd chwaraeon newydd a chyfleusterau newid, stiwdio dawns, ystafelloedd cynadledda a theatr gyda lle i 200 o bobl, ei gwblhau yn 2020 ond bu oedi ar gynlluniau i agor y cyfleuster i’r cyhoedd oherwydd y pandemig.

Gall grwpiau a chlybiau lleol gadw lle yn y cyfleuster yng Nghwmbrân, sy’n cynnwys ardal lesiant newydd, gyda seddi yn yr awyr agored a dan do ac ystafelloedd preifat.

Dywedodd y Pennaeth, Natalie Richards: “Rydym yn hynod o falch o’r cyfleusterau sydd gyda ni yn Ysgol Gyfun Croesyceiliog ac yn falch bod ein cymuned leol yn gallu elwa ohonyn nhw hefyd.

“Mae’r ganolfan les newydd yn cwblhau’r datblygiad a bydd yn allweddol ar gyfer sicrhau bod ein disgyblion i gyd yn cael y gorau o’u dysg a’u profiadau yn yr ysgol.”

Ychwanegodd y rheolwr lles, Irfan Ally: “Rwy’n falch iawn o fod yn arwain y Ganolfan Ymddygiad a Lles yng Nghroesyceiliog.  Mae gennym dîm o staff gydag amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau yn gweithio yma, a’n bwriad yw cyrraedd cymaint o ddisgyblion â phosibl yn yr ysgol a’u cefnogi gyda’u hanghenion unigol.

“Rydym yn gweithio tuag at ymwreiddio diwylliant adferol a meithringar yn y ganolfan, er mwyn i ddisgyblion sy’n defnyddio’r ddarpariaeth ddeall eu heriau a’u hymddygiadau a symud ymlaen yn academaidd ac yn gymdeithasol.”

Mae’r buddsoddiad yn Ysgol Gyfun Croesyceiliog yn rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor Torfaen.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Mae’n wych gweld effaith y cyfleuster hwn ar addysg ein disgyblion, yn ogystal â’u hiechyd a’u lles.  Mae helpu plant a phobl ifanc i gyrraedd eu potensial, a’u cefnogi i gael sgiliau a chymwysterau i’w galluogi i fyw bywydau cadarnhaol, yn un o’r prif amcanion yng Nghynllun Sirol y cyngor.”   

Gall grwpiau lleol gadw lle yn y cyfleusterau trwy wefan yr ysgol.

Darllenwch fwy am Gynllun Sirol y cyngor.

Diwygiwyd Diwethaf: 29/09/2023 Nôl i’r Brig