Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 18 Hydref 2023
Adoption Service

Fel rhan o Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu 2023, mae Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru yn parhau â’i genhadaeth i annog mwy o bobl i ystyried mabwysiadu, gan fod grwpiau o siblingiaid, plant ag anghenion ychwanegol, a phlant hŷn ar draws Cymru yn dal i aros i ddod o hyd i’w ‘cartref am byth’.

Mae Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru, sy'n fwy adnabyddus fel SEWAS, yn darparu gwybodaeth am fabwysiadu tra'n helpu pobl i gyflawni eu gobeithion o ddod yn rhieni.

Mae'r gwasanaeth wedi bod yn mynd ar daith o amgylch y pum awdurdod cyfagos gyda baner maint llawn i ddangos cefnogaeth a chodi ymwybyddiaeth am fabwysiadu trwy hyrwyddiadau gyda busnesau bach lleol, timau chwaraeon cymunedol, ysgolion, a gwasanaethau sector cyhoeddus.

Dros y pythefnos diwethaf, ymwelodd SEWAS â Phractis Meddygol Blaenafon, The Castle Inn Rasa, Tîm Pêl-rwyd Abertyleri a Meithrinfa Little Stars yng Nglynebwy.

Mae wedi creu’r cyfle perffaith i ddechrau sgyrsiau am fabwysiadu ac wedi galluogi unigolion i ddod at ei gilydd ar gyfer achos teilwng.

Mae mabwysiadwyr o bob rhan o Gymru wedi dod yn rhan o’r ymgyrch, gan ymddangos mewn fideos ymgyrchu ar gyfryngau cymdeithasol ac ysgrifennu blogiau i hysbysu eraill.

Mae rhieni sydd wedi mabwysiadu siblingiaid o Wasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru wedi rhannu pam y gwnaethant gymryd rhan:

‘’Mae fy mhartner a minnau bob amser wedi dweud y byddem yn ymddiried yn y broses fabwysiadu. Ni fyddem yn dewis ein plant, ond byddent yn ein dewis ni. Saith mlynedd yn ôl fe wnaethom dderbyn y pariad siblingiaid cyntaf a gynigiwyd i ni gan SEWAS. Mae ein teulu yn fwy cyflawn nawr nag y bu erioed - ni fyddem yn dymuno iddo fod unrhyw ffordd arall! Diolch i SEWAS am ein helpu i ddod o hyd i’n darnau coll.’’ 

SEWAS yw’r gwasanaeth mabwysiadu lleol ar gyfer pobl sy’n byw ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.

I holi am fabwysiadu heddiw neu i gael gwybod mwy, ewch i: https://southeastwalesadoption.co.uk/ neu ffoniwch (01495) 355766.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/10/2023 Nôl i’r Brig