Fandaliaid yn targedu coed

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 7 Medi 2023

Mae pum coeden wedi eu fandaleiddio yng Nghwmbrân yn y misoedd diweddar.

Cafodd dwy dderwen aeddfed ym Manorbier Drive a Fair Oaks Lane, a Masarnen yn Crown Rise eu drilio a’u gwenwyno’n fwriadol.  Hefyd, tynnwyd y rhisgl o ddwy goeden yn Llanyrafon Square a Caernarfon Crescent.

O ganlyniad i’r gweithrediadau bwriadol yma, bu rhaid i nifer o goed gael eu tynnu i ffwrdd yn gyfan gwbl, ac mae’r gweddill yn cael eu monitro am resymau diogelwch.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae’r Cyngor a Thai Cymunedol Bron Afon wedi gweld cynnydd yn y niwed bwriadol i goed yn ddiweddar, sy’n drist iawn.

“Nid yn unig mae hyn yn eu gwneud yn ansefydlog sy’n gallu bod yn beryglus i’r cyhoedd ac adeiladau cyfagos, ond gall olygu hefyd y bydd rhai i unrhyw fywyd gwyllt sy’n byw yn y coed symud.

“Rydym yn annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus a dweud am unrhyw un sy’n achosi niwed i’r coed.”

Dywedodd Simon Morgan, Rheolwr Man a Lle Tai Cymunedol Bron Afon: “Mae difrodi coed yn drosedd o dan Adran 1(1) Deddf Niwed Troseddol 1971.

“Mae’n frawychus meddwl fod gan bobl cyn lleied o feddwl am eu diogelwch neu am ddiogelwch y cyhoedd, ac y bydden nhw’n difrodi coeden yn fwriadol hyd nes ei lladd gyda holl beryglon hynny.  Mae’r anghyfrifol tu hwnt ac yn anghywir.  Mae’n anodd deall pam y byddai unrhyw un yn credu bod hyn yn dderbyniol”.

Os oes gyda chi unrhyw wybodaeth am yr ymosodiadau ar goed yn Llanyrafon, a wnewch chi gysylltu â Bron Afon neu’r Cyngor os gwelwch yn dda. Dylai adroddiadau am ddigwyddiadau cyfredol gael eu gwneud i’r heddlu trwy’r rhif 101 nad yw’r rhif brys, wrth i’r digwyddiadau ddigwydd.” Ends

I wybod pam fod coed mor bwysig gwyliwch fideo Cariad Coed neu darllenwch strategaeth coed y cyngor    

Mae plannu coed yn rhan o Gynllun Sirol y cyngor i ymateb i argyfyngau hinsawdd a natur, a gwneud gwelliannau i’r amgylchedd leol. Darllenwch y Cynllun Sirol i wybod mwy.  

Diwygiwyd Diwethaf: 07/09/2023 Nôl i’r Brig