Mainc yn cael pobl i siarad

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 15 Mehefin 2022
IMG_5348[2]

Mae mainc cyfeillgarwch y tu allan i hwb lles cymunedol newydd yn cael pobl i siarad. 

Mae’r fainc, yn Nhŷ Glas y Dorlan, yng Nghwmbrân, wedi ei dylunio i bobl eistedd a siarad gyda’i gilydd neu aelodau staff, sy’n cadw llygad allan am rywun sy’n eistedd ar y fainc ar eu pen eu hunain.  

Ysbrydolwyd y syniad gan y gyfres Netflix After Life, gyda Ricky Gervais, lle mae ei gymeriad Tony yn siarad gyda phobl wrth eistedd ar fainc mewn mynwent. 

Meddai Kate Noyes, o’r Tîm Ymyrraeth Cymunedol Cyngor Torfaen: "Roeddwn wedi gweld meinciau tebyg eraill ac roeddwn yn meddwl eu bod yn ffordd wych o gael bobl i siarad ac efallai hyd yn oed ffurfio cyfeillgarwch. 

"Mae’n Wythnos Ymwybyddiaeth Unigrwydd yr wythnos yma, a gall cael sgwrs bum munud gyda rhywun wneud i bobl deimlo’n llai unig ac ar eu pen eu hun."   

Ychwanegodd Mel Baker, arweinydd Hwb Lles: "Mae’r fainc yn ffordd wych i’n staff gyfarfod a sgwrsio gydag aelodau o’r gymuned ac rydym wrth ein boddau bod pobl wedi dechrau ei defnyddio’n barod."

Talwyd am y fainc gyda chyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer seibiant gofalwyr ac fe gafodd ei pheintio am ddim gan PowdrCoater LTD yn y Dafarn Newydd.

Meddai Gail Mott, o Orllewin Pontnewydd, yn y darlun gyda’i ffrind Carol Wheeler: "Rwy’n hoffi’r fainc gymaint – rwy’n mwynhau eistedd yn gwylio’r byd yn mynd heibio ac yn sgwrsio gyda phobl."

Ychwanegodd Phillip Smith, o Lantarnam: "Roeddwn yn eistedd yma ddoe ac fe ddaeth Emma, o Dŷ Glas y Dorlan, allan ac roeddem yn sgwrsio am oes.

"Rwy’n credu y dylai fod mwy o’r meinciau hyn o gwmpas Torfaen achos mae yn eich annog i gael sgwrs."

I gael rhagor o wybodaeth am Dŷ Glas y Dorlan, ewch i’n gwefan

Diwygiwyd Diwethaf: 15/06/2022 Nôl i’r Brig