Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 14 Mehefin 2024
Malcolm Evans yw’r rhoddwr gwaed hiraf ei wasanaeth yng Nghymru – ac un o’r hiraf ei wasanaeth yn y DU!
Mae Malcolm, o Dref Gruffydd, Pont-y-pŵl, wedi rhoi 156 o weithiau ac wedi achub cannoedd o fywydau.
Ar Ddiwrnod Rhoi Gwaed y Byd, mae Malcolm yn dweud ei fod yn gobeithio ysbrydoli eraill i ddilyn ei esiampl.
Dywedodd Malcolm, 82, sydd wedi bod yn rhoi gwaed ers bron i 63 o flynyddoedd: "Ar ôl rhoi 156 o weithiau. Rwy’n falch o glywed fod hynny wedi achub 468 o fywydau. Rwy’n hoffi meddwl fy mod i’n rhoi gwasanaeth. Rwy’n teimlo’n ffodus iawn gyda fy mywyd ac, os gallaf helpu eraill, mae’n dda gen i wneud.
"Dechreuais roi yng Ngorffennaf 1960 ac rwy’ wedi bod yn rhoi ers hynny. Mae’n uchelgais gen i roi gwaed mor aml ag y gallaf ac rwy’n falch iawn o gyrraedd y lefel yma nawr.
"Rwy’n gobeithio y bydd eraill yn fy nilyn ac yn gwneud yr un peth - mae’n hawdd rhoi a gall achub bywyd."
Dywedodd Peter Richardson, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: “Rydym ni mor ddiolchgar i roddwyr fel Malcolm, sy’n dod i roi dro ar ôl tro. Mae blynyddoedd Malcolm o ymrwymiad i helpu eraill yn wirioneddol hynod, ac mae nifer ei roddion yn syfrdanol.
“Rydym ni’n gobeithio y bydd Malcolm a storïau fel ei stori ef yr ydym yn ei rhannu’r wythnos yma fel rhan o Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed yn ysbrydoli pobl i roi awr o’u hamser i roi gwaed.
“Mae pob rhodd yn cyfrif, felly os nad ydych chi wedi rhoi gwaed o’r blaen neu os nad ydych chi wedi rhoi ers peth amser, ystyriwch drefnu apwyntiad i helpu cleifion mewn angen.”
Gwyliwch Malcolm yn rhoi am y 152 tro
Llynedd, cafodd Malcolm ei wobrwyo am gyrraedd 150 o roddion mewn digwyddiad yng Ngwesty’r Parkway, Cwmbrân, gyda rhoddwyr eraill yn dathlu rhoi 50, 75 a 100 rhodd gwaed, platenau a mêr yr esgyrn.
Hyd yn hyn eleni, mae rhoddwyr Torfaen wedi rhoi 1,207 uned o waed.
Ym Mai, rhoddodd y gwasanaeth 6,435 uned o waed i ysbytai Cymru, gan gynnwys 572 uned i Ysbyty’r Faenor, Cwmbrân.
Dysgwch beth sydd ynghlwm wrth roi gwaed a ble gallwch roi dros yr haf