Croeso i Dŷ Glas y Dorlan

Ty Glas y Dorlan Logo

Mae Tŷ Glas y Dorlan ym Mryn Eithin Cwmbrân yn gydweithrediad rhwng Cyngor Torfaen a Bron Afon a fydd yn agor Hydref 2021.

Mae'n hwb lles amlbwrpas lle bydd croeso cynnes, cyfeillgar, ar gael bob amser i westeion, tenantiaid, y gymuned, gweithwyr proffesiynol, pobl sy'n ymweld, a'r cyhoedd

  • Bydd Tŷ Glas y Dorlan yn cynnig cefnogaeth i oedolion dros 18 oed yn ogystal â phobl ifanc sy’n symud i fyd oedolion
  • Bydd gan Dŷ Glas y Dorlan 6 fflat ar y llawr uchaf ar gyfer tenantiaethau tymor hir
  • Bydd gan Dŷ Glas y Dorlan 13 fflat arhosiad byr i westeion ddarganfod yr hyn sy'n bosibl o ran annibyniaeth
  • Bydd gan Dŷ Glas y Dorlan gefnogaeth sesiynol i’r rheini nad ydynt yn dymuno aros dros nos
  • Bydd Tŷ Glas y Dorlan yn cynnig gwybodaeth a chyngor am les, a chymorth cymdeithasol a chymunedol i’r sawl sydd eu hangen

Os gofynnir y cwestiwn "sut fedrai, fel unigolyn

  • gael y cyfle iawn:
  • ar yr adeg iawn; ac • yn y ffordd gywir
  • gydag anogaeth, cefnogaeth a gallu i ddatblygu a chynnal y sgiliau sy'n bwysig i mi
  • i fyw'r bywyd yr wyf am ei fyw a hynny mor annibynnol â phosibl yn fy nghartref fy hun

ar ôl bod yn yr ysbyty, ar ôl wynebu salwch neu ddigwyddiad sy’n newid bywyd, neu i gefnogi fy ngofalwyr i fy nghefnogi"

  • yna Tŷ Glas y Dorlan yw’r lle i chi.

Bydd yr hwb yn cynnig lle cyfeillgar hawdd mynd ato i wella, gydag ymdeimlad o westy. Lle sy'n fwy nag adeilad, lle bydd yn eich galluogi i fagu hyder, trwy annibyniaeth. Man cymdeithasol creadigol i estyn allan a datblygu cysylltiadau a chyfeillgarwch. Man lle mae rhoi cynnig ar bethau newydd a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd yn cael ei annog a'i ddathlu. Man lle na allwch fethu, am mai dysgu i wneud pethau mewn ffordd wahanol yw ein ffordd o weithio. Gallwch wneud hyn, ynghyd â'ch gofalwr, neu ar wahân cyn dychwelyd i'ch cartref eich hun.

Bydd Tŷ Glas y Dorlan hefyd yn cynnig seibiannau bach byr gyda gweithgareddau ac adloniant dan gyfarwyddyd y gwesteion yn yr hwb, a chyfle i ail-wefru a "dianc rhag y cyfan" gyda grwpiau cyfeillgarwch, pobl sydd â'r un diddordebau, neu'n unigol neu gyda gofalwyr hefyd.

I'r rhai sy'n dewis aros gyda ni, bydd gofal a chefnogaeth ar y safle 24/7 gyda mynediad at Therapyddion Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n canolbwyntio ar atebion galluogi trwy gydol y dydd.

Artists impression of Ty Glas y Dorlan building

Diwygiwyd Diwethaf: 04/03/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Ty Glas y Dorlan

Ffôn: 07815481020

Nôl i’r Brig