Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 17 Mai 2024
Mae dros 160 o ofalwyr maeth yr awdurdod lleol wedi cael cydnabyddiaeth am eu cyfraniadau eithriadol i fywydau plant bregus.
Dros y ddau ddiwrnod diwethaf, mae tîm cefnogaeth maethu’r cyngor wedi bod yn cludo blodau i’r holl deuluoedd maeth yn y fwrdeistref i ddiolch iddyn nhw am bob peth y maen nhw’n ei wneud.
Ar ddydd Mercher, daeth tua 70 i ddigwyddiad gwerthfawrogi arbennig yng Ngwesty’r Parkway, Cwmbrân, fel rhan o’r dathliadau i nodi Pythefnos Gofal Maeth.
Daeth Dawn a Wayne, gŵr a gwraig o Bont-y-pŵl, a dau bâr arall i dderbyn gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig am fynd yr ail filltir wrth faethu.
Ers 2019, maen nhw wedi rhoi gofal maeth a gofal seibiant, gan roi cefnogaeth i gyfanswm o wyth o blant. Hefyd, derbynion nhw mam a phlentyn ac, ymhen amser, mabwysiadon nhw un o’r plant yn eu gofal.
Dywedodd Dawn, sydd wedi gofalu am fabanod a phobl ifanc yn eu harddegau yn ystod y cyfnod hwnnw: “Roedd yn syndod hyfryd derbyn y wobr yma ac roeddem ni mor falch o gael ein henwebu.”
“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi cael rhai atgofion anhygoel. Un sy’n dod i’r cof yw derbyn cerdd Nadolig gan un ferch ifanc yr oeddem wedi bod yn gofalu amdani. Roedd yn mynegi sut, i gychwyn, roedd ein cartref yn teimlo fel to uwch ei phen. Serch hynny, trwy ein gofal a’n cariad, daeth i ddeall gwir ystyr teulu - teimlad nad oedd hi wedi ei brofi o’r blaen.”
Derbyniodd saith o deuluoedd maeth hefyd wobr gwasanaeth hir am roi cartrefi sefydlog a gofalgar i blant am dros ddegawd.
Yn eu plith, roedd Catherine a Shane, pâr o Ebbw Vale, a gymeradwywyd yn 2014 ac ers hynny, maen nhw wedi dod i ofal perthynas amser llawn, yn ogystal â bod yn ofalwyr maeth prif ffrwd.
Dywedodd Catherine, “Mae’n fy synnu sut mae pobl yn dod i’n cartref heb ein hadnabod ond, o fewn amser byr, maen nhw wedi addasu ac yn hapus i fod gyda ni.”
“Mae pob plentyn yn haeddu cariad a chefnogaeth, ac mae’n bwysig eu magu fel y byddech chi’n magu eich plant eich hun. Pan fo plentyn yn ymuno â’n teulu, maen nhw’n dod yn rhan o’r teulu.”
Diolchodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Cyngor Torfaen, Jason O’Brien, i bawb yn y digwyddiad, a oedd yn cynnwys cinio a cherddoriaeth fyw gan ddisgyblion Ysgol Gyfun Abersychan.
Dywedodd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg, a ddaeth i’r digwyddiad hefyd, "Wrth i ni ddathlu Pythefnos Gofal Maeth, rydw i am ddiolch yn fawr i’r gofalwyr maeth anhygoel yn Nhorfaen. Mae eu hymroddiad diwyro a’u hanhunanoldeb yn gwneud gwahaniaeth anferth i fywydau plant sy’n agored i niwed.
“Rydw i hefyd am gydnabod pwysigrwydd ein hymgyrchoedd Gall Pawb Gynnig Rhywbeth ac Atgofion Maethu. Maen nhw’n amlygu’r momentau pob dydd y mae gofalwyr yn eu creu – y prydiau gyda’i gilydd, storïau amser gwely, a’r sgyrsiau – sy’n llywio dyfodol plentyn.”
Ymgyrch flynyddol a drefnir gan y Rhwydwaith Maethu yn y DU yw Pythefnos Gofal Maeth, a’i bwriad yw codi ymwybyddiaeth am faethu ac amlygu sut mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau. Mae’n mynd o ddydd Llun, 13 Mai i ddydd Sul, 26ain Mai 2024
Trwy faethu gyda’r awdurdod lleol, byddwch chi’n rhan o dîm gyda gwybodaeth helaeth am daith y plentyn, gwasanaethau lleol ac ysgolion – sy’n amhrisiadwy i ofalwyr maeth.
I wybod mwy am fod yn ofalwr maeth awdurdod lleol, ffoniwch 01495 766669 neu ewch at wefan Maethu Cymru Torfaen.