Atgofion maethu sydd wir o bwys

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 15 Mai 2024
fostering FCF

Mae teulu maeth o Bont-y-pŵl wedi sôn am yr eiliad y gwnaethant sylweddoli eu bod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd person ifanc.

Mae Kate a Gareth, sydd â thri o blant eu hunain, wedi bod yn maethu ers mis Hydref 2020. Maent yn darparu lleoliadau ar gyfer dau o blant, yn ogystal â gofal seibiant a gofal dydd i saith o blant, yn cynnwys gofalu am fabanod yn yr ysbyty.

Maent ymhlith nifer o ofalwyr maeth sydd wedi rhannu eu hoff adegau maethu, fel rhan o ymgyrch newydd Maethu Cymru yn ystod Pythefnos Gofal Maeth eleni, 13 – 26 Mai.

Un o'u hadegau maethu fwyaf annwyl oedd pan wnaethant ddysgu un o'u plant maeth sut i reidio beic am y tro cyntaf.

Dywedodd Kate: “Efallai nad ydym yn deulu gwaed, ond byddwn bob amser yn deulu. Roedd y llawenydd a'r balchder ar ei hwyneb pan lwyddodd, werth y byd.

“Rydym wrth ein bodd yn maethu a chreu atgofion gyda'n gilydd ac er bod y plant yn symud ymlaen, rydym bob amser yn siarad amdanynt, ac maent yn aros yn ein calonnau.” 

Mae Kate a Gareth hefyd yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau teuluol gyda'u plant a'u plant maeth, fel cerfio pwmpenni adeg Calan Gaeaf, rhywbeth nad oedd un o’u plant maeth wedi’i wneud o’r blaen.

Mae tua 160 o ofalwyr maeth yn awdurdod lleol Torfaen, a thua 2,700 mewn awdurdodau lleol ledled Chymru.

Mae Maethu Cymru wedi gosod nod uchelgeisiol i recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026.

Bwriad ymgyrch ‘Atgofion Maethu’ yw dangos sut y gall unrhyw un greu atgofion parhaus, adeiladu hyder a chynnig amgylchedd diogel a chariadus i blant a phobl ifanc mewn angen.

Bydd yr adegau hyn, boed fawr neu fach, yn cael eu rhannu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y cyngor, yn y gobaith o ysbrydoli eraill i gamu ymlaen a gwneud gwahaniaeth.

Mae cyfres o ddigwyddiadau galw heibio hefyd wedi'u trefnu ar gyfer darpar ofalwyr maeth drwy gydol Pythefnos Maethu, darganfod mwy yma.

Dywedodd Jason O'Brien, Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Cyngor Torfaen: “Mae cymuned faethu ein hawdurdod lleol wedi cael effaith aruthrol ar fywydau ein plant mwyaf bregus, ac mae’n parhau i wneud, ond mae angen mwy o unigolion gofalgar arnom i ymuno â ni.

“P'un a yw'n stori amser gwely i gysuro, rhannu cyfle i chwerthin, neu gofleidiad cefnogol, mae pob munud yn cyfri’. Os ydych yn ystyried maethu, rwy’n eich annog i wneud ymholiad heddiw.”

I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth yn Nhorfaen, ewch i fosterwales.torfaen.gov.uk  


 

Diwygiwyd Diwethaf: 15/05/2024 Nôl i’r Brig