Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Cymunedol a Gwirfoddolwyr

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 17 Mehefin 2022
Logo Header

Fu gennych chi erioed awydd gweiddi am nodweddion anhygoel rhywun sy’n dangos anhunanoldeb ac ymroddiad pan ddaw’n fater o gefnogi eu cymuned?

Efallai eich bod am amlygu sefydliad neu grŵp y mae eu gweithgareddau wedi creu canlyniad cadarnhaol i’r bobl sy’n ymgysylltu â nhw.  Os felly, dyma’r cyfle yr ydych wedi bod yn aros amdano!

Ar ôl llwyddiant y Gwobrau cyntaf yn Hydref 2021, mae Gwobrau Cymunedol a Gwirfoddolwyr Torfaen wedi dychwelyd i ddod â Thorfaen ynghyd unwaith eto i gydnabod y rheiny sy’n gwneud lles yn rheolaidd ar draws y trydydd sector, chwaraeon, busnes a’r gymuned leol.

Mae enwebiadau ar agor nawr a byddant yn cau am hanner nos ar 31 Gorffennaf 2022.

I wybod am y categorïau ac enwebu rhywun, ewch i: https://tvawales.org.uk/volunteer-awards/

Bydd y rheiny sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael gwybod am eu henwebiad ac yn cael gwahoddiad i’r seremoni wobrwyo ar Hydref 212022 yng Ngwesty Parkway, Cwmbrân, ble bydd enillwyr pob categori’n cael eu cyhoeddi.

Am fwy o wybodaeth, ewch i https://tvawales.org.uk/volunteer-awards/ neu chwiliwch am @TVAWales yn y cyfryngau cymdeithasol

 

Diwygiwyd Diwethaf: 17/06/2022 Nôl i’r Brig