Rhedwyr yn barod ar gyfer 10k Mic Morris

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 14 Mehefin 2022

Mae bron i 1000 o bobl wedi cofrestru eisoes ar gyfer 10k Mic Morris Torfaen ar ddydd Sul 10 Gorffennaf.

Mae’n dair blynedd ers y digwyddiad diwethaf, sef un o’r uchafbwyntiau yng nghalendr chwaraeon y fwrdeistref.

Bydd y ras yn cychwyn am 9am ym Mlaenafon, gyda’r rhedwyr i gyrraedd Parc Pont-y-pŵl rhwng 9.30am tan tua 11am.

O ganlyniad bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 8am a 11.30:

  • A4043 Cwmavon Road o gyffordd Prince Street a New William Street ym Mlaenafon i Old Road yn Abersychan
  • Old Road
  • Limekiln Road
  • Freeholdland Road
  • George Street
  • Mill Road
  • Hospital Road
  • Rhan ogleddol Osbourne Road i’w chyffordd gyda Riverside
  • Riverside
  • Park Road yn arwain at Penygarn Road

Mae’r llwybr a ddewiswyd yn caniatáu i draffig symud yn rhydd rhwng Blaenafon a Phont-y-pŵl heb ymyrryd â’r rhedwyr. Ni fydd ffyrdd ochr yn cael eu cau yn ffurfiol ond ni fydd cerbydau yn cael mynd ar hyd y llwybr yn ystod y ras.

Dylai unrhyw un gyda chyfrifoldebau teithio neu ofalu sy’n cael eu heffeithio gan gau’r ffyrdd gysylltu gyda Datblygu Chwaraeon Torfaen ar 01633 628936 cyn gynted ag y bo’n hwylus, er mwyn gallu gwneud trefniadau i reoli traffig ar y dydd.

Mae holl wasanaethau argyfwng a darparwyr gofal lleol wedi eu hysbysu ac mae trefniadau i ganiatáu cerbydau argyfwng a gofalwyr gydag ID i groesi ffyrdd heb oedi, os bydd angen mynd i ddigwyddiad neu i weld cleient.

Dywedodd trefnydd y digwyddiad a Swyddog Datblygu Chwaraeon Torfaen, Ben Jeffries:

“Rydym yn ymddiheuro ymlaen llaw i unrhyw un sydd wedi ei anhwyluso gan gau’r ffyrdd, ond yn gobeithio y bydd rhoi rhybudd ymlaen llaw yn caniatáu i drigolion wneud trefniadau amgen ar gyfer y cyfnod cau byr. Bydd gwybodaeth hefyd yn cael ei hanfon at drigolion sy’n byw ar y ffyrdd a fydd yn cau. Byddwn, wrth gwrs, yn ceisio agor pob rhan o’r llwybr cyn gynted ag y bo modd.

“Bydd eleni yn nodi 10fed achlysur y ras a bydd yn wych gweld pobl yn dod yn ôl allan, yn mwynhau eu hunain ac yn cystadlu yn yr awyr agored unwaith ar ôl dwy flynedd anodd i bawb.”

I gael gwybodaeth am y digwyddiad, ewch i wefan Torfaen. Ar gyfer ymholiadau ar noddi, neu os hoffech wirfoddoli ar y dydd, i sicrhau lle am ddim yn nigwyddiad y flwyddyn nesaf, ffoniwch 01633 628936 neu ebostiwch: ben.jeffries@torfaen.gov.uk 

Diwygiwyd Diwethaf: 21/06/2022 Nôl i’r Brig