Ras 10k Mic Morris Torfaen

Bydd ras flynyddol 10k Mic Morris Torfaen yn digwydd ar ddydd Sul, 10 Gorffennaf 2022.

Mae’r ras yn dechrau ym Mlaenafon ac yn dilyn trywydd tuag i lawr ar heolydd a fydd wedi eu cau hyd at y llinell derfyn ym Mharc Pont-y-pŵl. 

Bydd amser pob rhedwr yn cael ei gofnodi gan sglodyn a bydd pob rhedwr yn derbyn Crys-T a bag ag amryw o bethau.  Mae’r ras yn addas i bob math o redwyr a chystadleuwyr ag anableddau.  Yr oedran ieuengaf er mwyn cymryd rhan yw 15 oed.

Pris tocynnau:

  • Aelod cyswllt - £24
  • Aelod heb gysylltiad - £26
  • Aelod cyswllt â chludiant - £29
  • Aelod heb gysylltiad â chludiant - £31
  • Athletwr ag anabledd - â chyswllt - £24
  • Athletwr ag anabledd - heb gysylltiad - £26
  • Athletwr ag anabledd - â chyswllt a chludiant - £29
  • Athletwr ag anabledd - heb gysylltiad a chludiant - £31

Mae gan y ras nifer o gategorïau: 

  • Merch a bachgen 1af 15 – 19 oed
  • Menyw 1af  20 – 34 oed
  • Dyn 1af 20 – 39 oed
  • Menyw hŷn 1af 35- 49 oed
  • Dyn hŷn 1af 40 – 49 oed
  • Menyw Meistr 1af 50 – 59 oed
  • Dyn Meistr 1af 50 – 59 oed
  • Menyw Uchel Feistr 1af 60 oed a throsodd
  • Dyn Uchel Feistr 1af 60 oed a throsodd
  • Menyw a dyn 1af gydag anabledd

Bydd yr holl elw o’r ras yn mynd i Gronfa Coffa Ymddiriedolaeth Chwaraeon Mic Morris. Roedd Mic Morris yn heddwas ac yn rhedwr pellter canol dros Brydain o Bont-y-pŵl a fu farw’n 24 oed wrth ymarfer yn 1983.  Sefydlwyd y gronfa gan Heddlu Gwent a Chyngor Torfaen i godi arian i fabolgampwyr elît Torfaen, yn arbennig i bobl ifanc 11-21 oed sy’n byw yn Nhorfaen. 

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r ras neu i holi am noddi, ffoniwch Christine Philpott ar 01633 628936 neu, danfonwch e-bost at christine.philpott@torfaen.gov.uk

Cau Ffyrdd 

Bydd ffyrdd ar gau yn llwyr ar gyfer y digwyddiad o 8am tan 11:30am.

Y prif ffyrdd a fydd ar gau ar hyd llwybr y ras yw:

  • A4043 Cwmavon Road o gyffordd Prince Street a New William Street ym Mlaenafon hyd at Old Road yn Abersychan
  • Old Road
  • Limekiln Road
  • Freeholdland Road
  • George Street
  • Mill Road
  • Hospital Road
  • Rhan ogleddol Osbourne Road hyd at ei chyffordd â Riverside
  • Riverside
  • Park Road i fyny at Penygarn Road

Ni fydd ffyrdd i’r ochr ar gau’n ffurfiol ond ni chaniateir i gerbydau fynd i lwybr y ras yn ystod y ras. Bydd mynediad i gerbydau argyfwng ar bob amser.

Dylai unrhyw un sydd â chyfrifoldebau teithio neu ofalu ac a fydd yn cael eu heffeithio gan y cau, gysylltu â thîm datblygu chwaraeon Torfaen ar 01633 628936.

Mic Morris Torfaen 10k

Diwygiwyd Diwethaf: 31/07/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Sports Development Team

Ffôn: 01633 628936

Nôl i’r Brig