Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 6 Chwefror 2024
Mae Cyngor Torfaen wedi penodi Mike Coe fel ei Reolwr Cyffredinol newydd yn Fferm Gymunedol Greenmeadow.
Cyn hyn, mae Mike wedi gweithio mewn rolau uwch-reoli a masnachol yn Sŵ Bryste, Acwariwm Bryste ac yn Westonbirt, y goedfa genedlaethol, ac mae ganddo hanes o lwyddo i drawsnewid atyniadau i ymwelwyr a sicrhau proffidioldeb.
Ar hyn o bryd mae yna waith trawsnewid gwerth sawl miliwn o bunnau ar y gweill ar y fferm gymunedol a’i nod yw gwireddu’r canlynol:
- Ysgubor Wair wedi’i thrawsnewid sy’n addas ar gyfer priodasau, partïon a digwyddiadau cymunedol
- ysgubor chwarae dan do newydd ag offer chwarae sy’n addas at bob tywydd, a gwelliannau i ardal chwarae antur awyr agored
- ysgubor newydd ar gyfer yr anifeiliaid
- caffi newydd ac estynedig
- siop wedi’i hailwampio i werthu cynnyrch lleol ac i hyrwyddo cynnyrch a chyflenwyr lleol
- llwybrau newydd trwy’r coetir a llwybrau synhwyraidd
- profiadau addysg gwell
- gwelliannau i hygyrchedd y safle.
Meddai Mike Coe: ‘‘Mae meithrin cysylltiad rhwng pobl a natur yn rhywbeth sy’n meddwl y byd i mi. Rydw i’n gwybod bod y fferm yn annwyl iawn i’r bobl leol ac roedd y weledigaeth o sicrhau bod y fferm yn un o’r prif atyniadau i ymwelwyr yn Ne-ddwyrain Cymru yn gyfle a oedd yn atyniad mawr i mi at y rôl.
“Rydw i wedi treulio mwyafrif fy ngyrfa naill ai’n lansio atyniadau i ymwelwyr neu’n eu trawsnewid i sicrhau eu bod yn gynaliadwy’n fasnachol. Gyda’r weledigaeth a’r cynlluniau cyffrous ar gyfer y Fferm, rwy’n hyderus y gallaf ddefnyddio fy mhrofiad i helpu denu ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn, gyda gwir ffocws ar y profiad awyr agored i ymwelwyr. Bydd y cynlluniau ar gyfer y Fferm hefyd yn bodloni’r galw am fwy o weithgarwch sy’n addas at bob tywydd, gan ddarparu profiadau cofiadwy gyda’r anifeiliaid, cyfleoedd i chwarae yn yr awyr agored a gosod y fferm ar sylfaen sy’n gadarn yn ariannol.”
Meddai’r Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Cabinet Torfaen dros Gymunedau: “Mae Mike wedi gweithio yn rhai o’r atyniadau mwyaf poblogaidd i dwristiaid yn y De-orllewin ac mae ganddo hanes o sicrhau eu llwyddiant. Mae wedi arddangos craffter masnachol sylweddol yn ei rolau blaenorol a diolch i’w brofiad o arwain timau a gweithio gyda gwirfoddolwyr mae’n benodiad gwych i’r Fferm.”
Meddai Coley Hill Consultants, sydd wedi bod yn gweithio ar y cysyniad newydd a’r weledigaeth ar gyfer Fferm Gymunedol Greenmeadow ers mis Mawrth 2023: "Rydyn ni wrth ein boddau fod Mike yn ymuno â’r tîm. Mae ganddo wybodaeth a phrofiad helaeth ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gydag ef a gweddill y staff ar y Fferm ar y prosiect cyffrous hwn. Allwn ni ddim aros i rannu’r profiadau newydd i ymwelwyr ar y Fferm pan fydd ymwelwyr yn cael eu croesawu nôl yng Ngwanwyn 2025."
Y bwriad yw agor y Fferm ym mis Ebrill 2025.