Erlyn masnachwr am werthu crysau T ffug

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 19 Gorffennaf 2022
Counterfeit clothes

Mae dyn wedi pledio’n euog i fod â dillad ffug yn ei feddiant a’u gwerthu ar ôl iddo gael ei ddal yn gwerthu crysau T dylunydd ffug ar Facebook.

Plediodd Alex Parry, 28, yn euog o 10 cyhuddiad o werthu dillad ffug a throsedd o weithredu busnes trwy dwyll yn Llys Ynadon Cwmbrân ar ddydd Iau, 14 Gorffennaf 2022, ar ôl ymchwiliad gan Swyddogion Safonau Masnach Cyngor Torfaen.

Roedd swyddogion yn amheus o edrychiad a phris yr eitemau yr oedd Parry’n gwerthu ar nifer o safleoedd gwerthu ar Facebook yn gynnar yn 2021.

Roedd y rhan fwyaf o nwyddau ffug, yn cynnwys crysau T gyda logos brandiau dylunydd fel Prada, Moncler, Lacoste, Louis Vuitton a Givenchy, yn cael eu gwerthu am gyfran fechan o bris y nwyddau go iawn, gan greu bygythiad i fusnesau cyfreithlon a defnyddwyr.

Defnyddiodd swyddogion warant i chwilio’i dŷ yn Springfield Terrace, Pontnewynydd, Pont-y-pŵl, a chipion nhw 41 o eitemau o ddillad y canfuwyd eu bod yn ffug.

Cafodd Parry gredyd am bledio’n euog yn gynnar ond cafodd ei ddedfrydu i orchymyn cymunedol am 120 awr o waith di-dâl oherwydd nifer y troseddau. 

Cafodd ei orchymyn hefyd i dalu gordal dioddefwyr o £95 a chostau’r Cyngor o £419.85, ynghyd â gorchymyn fforffediad yr eitemau i’w dinistrio.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Dylai hyn gael ei weld fel ataliad i bobl sy’n credu y gallan nhw wneud arian trwy werthu nwyddau ffug trwy’r cyfryngau cymdeithasol. 

"Mae tîm Safonau Masnach Torfaen yn gweithio’n hynod o galed i daclo gwerthiant a chyfenwad eitemau ffug. Nid yn unig mae pobl sy’n cael eu dal yn gwerthu eitemau o’r fath mewn perygl o gael dirwy fawr neu ddedfryd o garchar, mae modd ymchwilio i’w sefyllfa ariannol hefyd a gall llysoedd gymryd arian neu asedau oddi wrthyn nhw os nad ydynt yn gallu profi eu bod wedi derbyn y rhain yn gyfreithlon.

"Ar y cyfan, mae’r cynnyrch yma o ansawdd gwael a dangoswyd eu bod yn beryglus. Trwy brynu nwyddau ffug, mae pobl yn cefnogi masnachwyr anghyfreithiol a throseddol, ac yn tanseilio busnesau cyfreithlon. Rwy’n gofyn i drigolion brynu nwyddau gan werthwyr dibynadwy neu achrededig yn unig."

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am nwyddau ffug gysylltu â thîm Safonau Masnach  Torfaen ar 01633 647623 neu e-bost trading.standards@torfaen.gov.uk

Mae rhagor o wybodaeth ar gael www.torfaen.gov.uk/TradingStandards

Diwygiwyd Diwethaf: 19/07/2022 Nôl i’r Brig