Clwb cychwyn busnes newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 9 Ionawr 2024
Biz course Landscape Welsh

Fe fydd rhaglen newydd i unrhyw rai sy’n ystyried sefydlu eu busnesau eu hunain, yn dechrau fis nesaf.

Bydd y Clwb Cychwyn Busnes sy’n cael ei ariannu’n llawn, yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar entrepreneuriaid i sefydlu eu busnesau eu hunain, a’u rhedeg, gan gynnwys gweithdai wythnosol wedi eu harwain gan arbenigwyr, a chymorth.

Bydd y rhaglen chwe-wythnos yn dechrau ar 21 Chwefror, ac yn cael ei chynnal yn yr Hyb, ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl, bob dydd Mercher, rhwng 5.30pm ac 8pm. 

Fe fydd yn cael ei rhedeg gan Town Square Spaces Ltd (TownSq), sy’n arbenigo ar fusnesau bach, ar ran Cyngor Torfaen, ac mae’n cael ei hariannu trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros Yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Mae’r Clwb Cychwyn Busnes yn fath o raglen a allai gael effaith anferth ar bobl leol sydd eisiau archwilio’r syniad o redeg eu busnes eu hunain.

“Mae dechrau busnes yn gallu bod yn gam anferth, ond mae’r tîm profiadol yn TownSq yn gallu tywys pobl drwy’r broses un cam bach ar y tro, gan eu harfogi â phopeth y mae angen ei wybod arnynt.

"Bydd y fenter hon hefyd yn gymorth i dyfu cymuned fusnes gefnogol ym Mhont-y-pŵl ac, yn ei dro, fe fydd hyn yn galluogi busnesau sy’n cychwyn i oroesi a ffynnu.”

Bydd y rhaglen yn trafod tesun craidd gwahanol bob wythnos, gan gynnwys gwerthu a marchnata, cynllunio busnes, gweinyddu, elfennau cyfreithiol ac Adnoddau Dynol, cyllid, rhwydweithio a gwerthu syniadau.

Cynlluniwyd y sesiynau i fod yn rhai hamddenol ac anffurfiol a byddant yn cael eu harwain gan hwylusydd profiadol. Bydd y rhan fwyaf o hwyluswyr wedi rhedeg eu busnesau eu hunain ers blynyddoedd.

Meddai Kevin Mansell-Abell, Cyfarwyddwr Masnachol gyda TownSq, “Mae’r syniad o gychwyn busnes yn gallu dychryn rhai. I’r rhan fwyaf o bobl, nid yw’r syniad o orfod rhoi’r gorau i’w swydd a chymryd y risg o ddechrau o’r dechrau, yn ymarferol – yn enwedig yn sgil y cynnydd mewn costau byw.

“Dyna pam yr ydyn ni’n cynnal ein Clybiau Cychwyn ar ôl oriau gwaith, er mwyn i bobl allu gweithio ar eu syniadau busnes o amgylch eu bywydau prysur, a’u cael nhw i’r man lle bo ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt i ddechrau ac i dyfu.

"Rydyn ni wedi cyflwyno’r clybiau hyn i gannoedd o bobl yn ein lleoliadau ledled y Deyrnas Unedig, ac rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni’n gweithio gyda Chyngor Torfaen i ddod â hyn Pont-y-pŵl.”

Darperir bwyd a lluniaeth ar y noson ond mae’r llefydd yn gyfyngedig – felly i gofrestru am le ewch i www.townsq.co.uk/pontypool

I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae tîm Economi Sylfaenol Cyngor Torfaen yn gallu cefnogi busnesau newydd ym Mhont-y-pŵl a Blaenafon, cysylltwch â  businessdirect@torfaen.gov.uk.  

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog yn agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025.

Nod y Gronfa yw gwella balchder yn ein bröydd a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol a phobl a sgiliau.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus

Diwygiwyd Diwethaf: 12/01/2024 Nôl i’r Brig