Wedi ei bostio ar Dydd Iau 21 Mawrth 2024
Mae partneriaeth newydd o’r enw “Cysylltu Torfaen,” wedi cael ei ffurfio i gynyddu cyfleoedd i Drydydd Sector Torfaen i gael nawdd.
Mae’r bartneriaeth yn dod â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cynghrair Gwirfoddol Torfaen, Bron Afon, Pobl, a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan at ei gilydd, i greu ffordd unedig o weinyddu cynlluniau grantiau bach ar gyfer grwpiau cymunedol ar draws y Fwrdeistref.
Nod y bartneriaeth hon yw cynyddu’r nawdd sydd ar gael i helpu i ddatblygu gweithgareddau ar gyfer ein cymunedau sy’n annog perchnogaeth gan y gymuned, yn datblygu annibyniaeth ac yn gwneud gwahaniaeth sy’n para i fywydau pobl.
Meddai’r Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: “Rydw i wrth fy modd i glywed am ddatblygiad ‘Cysylltu Torfaen’, ac fe fydd o gymorth mawr i’r Trydydd Sector i gael gwybod yn haws am grantiau sydd ar gael.
“Mae’r grantiau sydd ar gael trwy’r Cyngor yn amrywio o £500 i £25K felly cysylltwch os ydych chi’n grŵp cymunedol sydd â syniad am sut i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned leol.
“Fe fydd grantiau ar gael gan bartneriaid ar adegau gwahanol yn ystod y flwyddyn, felly cadwch lygad ar ein gwefan i sicrhau na fyddwch yn colli cyfle.”
Nod y bartneriaeth hon yw cynyddu’r nawdd sydd ar gael i helpu i ddatblygu gweithgareddau ar gyfer ein cymunedau sy’n annog perchnogaeth gan y gymuned, yn datblygu annibyniaeth ac yn gwneud gwahaniaeth sy’n para i fywydau pobl.
Mae’r partneriaid yn cynnig amrywiaeth o grantiau, gan gynnwys grantiau Cydnerthedd Cymunedol, grantiau Busnesau Bwyd, grantiau Cynghrair Gwirfoddol Torfaen, Cynllun “Pitch4Pounds” Bron Afon, a grantiau Pobl Trust. Cynlluniwyd y grantiau hyn i feithrin nerth y gymuned, i ymgysylltu â’r gymuned ehangach, ac i ymgysylltu’n fwy.
Mae “Cysylltu Torfaen” yn rhan o ddull gweithredu cymunedol newydd, sydd â ffocws ar y gymuned, llesiant ac atal ac sy’n gosod yr elfennau hyn wrth wraidd y broses o ddarparu gwasanaethau. Mae cefnogi a datblygu sefydliadau a gwasanaethau yn y gymuned yn allweddol, ac mae cymorth grant yn rhan o’r pecyn ehangach y gallwn ei gynnig i rymuso ein cymunedau.
Cewch ragor o wybodaeth am y grantiau sydd ar gael a sut i ymgeisio, ar wefan y Cyngor
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
Mae’r Rhaglen Gwydnwch Bwyd wedi cael £991,426 gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac mae’n anelu at gynyddu’r bwyd fforddiadwy a gynhyrchir yn lleol, a dod o hyd i ffyrdd cynaliadwy o fynd i’r afael â thlodi bwyd trwy’r Bartneriaeth Bwyd Cynaliadwy.
Mae’r Gronfa Cydnerthedd Cymunedol wedi cael £860,000 gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac mae’n anelu at gynyddu gweithgarwch cymunedol a darparu gweithgareddau ymgysylltu ataliol.