Gwahardd rheolwr siop tecawê o Gwmbrân rhag rhedeg busnes bwyd

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 28 Chwefror 2024
court case photo

Mae cyn-reolwr busnes bwyd wedi pledio’n euog i ni o nifer o droseddau rheoliadau hylendid bwyd ac iechyd a diogelwch. 

Yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Gwener, 23 Chwefror, cafwyd Mr Adil Mohamed yn euog o nifer o droseddau gan gynnwys peri i staff fod yn agored i’r perygl o anaf oherwydd offer mewn cyflwr gwael, peidio â gwarchod bwyd rhag llygru posibl, a methu â gweithredu rheolaethau diogelwch bwyd yn effeithiol yn The Curry Kitchen yng Nghroesyceiliog, Cwmbrân.  

Oherwydd difrifoldeb y peryglon i ddiogelwch bwyd, gwaharddodd y llys Mr. Mohamed rhag rhedeg busnes bwyd yn y dyfodol. Cafodd Orchymyn Cymunedol hefyd am 12 mis sy’n cynnwys 10 diwrnod o adferiad a 120 awr o waith di-dâl, a’i orchymyn i dalu £3,665.09 tuag at gostau’r cyngor a gordal dioddefwyr o of £114. 

Dywedwyd wrth y llys bod Swyddogion Iechyd Amgylcheddol y cyngor, pan aethon nhw i The Curry Kitchen ar 16 Tachwedd 2022 a 1 Chwefror 2023, wedi cael hyd i offer brwnt, llysiau’n cael eu paratoi mewn iard frwnt heb olau, bwyd ar ôl ei ddyddiad gwerthu a staff yn gwisgo ffedogau brwnt. Cafodd yr eiddo sgôr o 0 (angen gwelliant ar frys) o dan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. 

  

Cafwyd hefyd fod Mr Mohamed wedi esgeuluso gwaith cynnal a chadw hanfodol yn y busnes, fel defnyddio offer diffygiol a pheryglus, a methu â sicrhau bod dŵr cynnes ac oer yn y toiledau ynghyd  a sebon a chyfleusterau sychu. Clywodd y llys ei fod yn aml yn gadael y busnes yng ngofal staff heb eu hyfforddi ac aelodau o’i deulu.  

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae’r achos yma’n amlygu gwaith hanfodol Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd wrth ddiogelu gweithwyr a’r cyhoedd rhag peryglon annerbyniol i’w hiechyd, eu diogelwch a’u lles.”  

“Yn ystod archwiliadau o The Curry Kitchen, nododd swyddogion achosion difrifol o ddiffyg cydymffurfiad a allai achosi anaf i bobl yn yr eiddo, ac roedd perygl gwirioneddol o salwch i gwsmeriaid o ganlyniad i safonau hylendid bwyd isel. Er gwaethaf cyngor i Mr Mohamed a chefnogaeth iddo gydymffurfio â’r gyfraith, fe fethodd â gwneud y gwelliannau angenrheidiol.”  

“Oherwydd natur y troseddau a’r peryglon cysylltiedig, roedd rhaid i’r cyngor gymryd camau pendant i ddiogelu’r cyhoedd.  Yn ogystal â’r erlyniad, rhoddodd y Llys Orchymyn Gwahardd yn erbyn i’w atal rhag rhedeg busnes bwyd yn y dyfodol.” 

“Rwy’n gobeithio bod hyn yn atgoffa busnesau am bwysigrwydd bod o ddifri am hylendid bwyd ac iechyd a diogelwch.”  

Gall unrhyw un sy’n rhedeg busnes yn Nhorfaen, neu sy’n ystyried gwneud, gysylltu â Thîm Cyswllt Busnes y cyngor i gael cyngor am fwyd a gofynion iechyd a diogelwch.  

Gellir cysylltu â’r Tîm Cyswllt Busnes trwy 01633 648735 neu drwy e-bostio businessdirect@torfaen.gov.uk    

ENDS  

Nodiadau i olygyddion    

Mae perchnogion newydd yn The Curry Kitchen bellach a chafodd sgôr hylendid bwyd o 3 ar ôl archwiliad ar 11 Hydref 2023. 

Diwygiwyd Diwethaf: 28/02/2024 Nôl i’r Brig