Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 13 Mawrth 2024
Mae tapestrïau sy’n dal atgofion o siopau a busnesau ar Stryd Fawr Blaenafon wedi’u troi’n arddangosfa ddigidol a sain newydd.
Trwy nodweddion rhyngweithiol a chyfuniad o gelf draddodiadol a digidol, mae’r tapestri digidol yn cyfleu hanfod bywyd bob dydd a phrofiadau siopa yn Broad Street dros y blynyddoedd.
Mae clipiau sain o drigolion hŷn yn hel atgofion am rai o'r hen adeiladau hefyd wedi'u hymgorffori i helpu i ddod â'r tapestri yn fyw.
Yn y digwyddiad lansio y ddoe, dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros Sgiliau, Economi ac Adfywio: “Mae dadorchuddio’r tapestri digidol yn nodi carreg filltir bwysig yn yr ymdrechion parhaus i ddathlu hanes Blaenafon a’i rhoi ar gof a chadw.
“Trwy ei fformat deniadol a hygyrch, mae'r tapestri yn argoeli i fod yn adnodd addysgol gwerthfawr ac yn destun balchder i'r gymuned. Mae’n deyrnged i bŵer cydweithio cymunedol a mynegiant creadigol.”
Dywedodd Gareth Davies, Cadeirydd Partneriaeth Rhaglen Treftadaeth Treflun Blaenafon: “Mae'n wych gweld yr arddangosfa ddigidol hon, a chyfle i drigolion ac ymwelwyr fwynhau ffrwyth barhaol a chwbl briodol y Rhaglen Treftadaeth Treflun.
Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Mae'r tapestri unigryw hwn yn ddarn hyfryd sy’n ffordd wych o adrodd stori’n weledol. Mae'n dathlu treftadaeth a gwir ysbryd cymunedol Broad Street ac mae'n deyrnged wych a fydd yn hybu ymdeimlad o falchder yn y lle am flynyddoedd i ddod. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn falch iawn o gefnogi Rhaglen Treftadaeth Treflun Blaenafon”
Bydd yr arddangosfa yn ddigwyddiad parhaol yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon a bydd ar agor i'r cyhoedd o ddydd Mawrth 19 Mawrth.
Mae’r prosiect, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn waith ar y cyd rhwng yr artistiaid Penny Turnbull a Natasha James ac mae’n dilyn dau dapestri 18 troedfedd a gafodd eu creu y llynedd. Cyflwynwyd y ddau dapestri erbyn hyn i Gartref Gofal Arthur Jenkins ym Mlaenafon.
Mae Partneriaeth Rhaglen Treftadaeth Treflun Blaenafon yn cael ei chyflenwi drwy gyfraniadau ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cyngor Tref Blaenafon, Cadw a pherchnogion eiddo preifat. Cefnogir y prosiect hefyd gan nifer o grwpiau cymunedol yn cynnwys; Grŵp Henoed Blaenafon, Grŵp Hanes Treftadaeth Blaenafon, ac Amgueddfa Gymunedol Blaenafon.