Gwaith i ddechrau ar wella gorsaf drenau

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 25 Chwefror 2022
IMG_4140

Mae disgwyl i waith i wella Gorsaf Drenau Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd a chreu cyfleuster parcio a theithio integredig ddechrau’r wythnos nesaf.

 Bwriad y prosiect gwerth £7.1miliwn, a fydd hefyd yn cynnwys gwelliannau i’r orsaf, pwyntiau newydd i wefru ceir a phompren a lifft, yw cynyddu nifer y bobl o’r fwrdeistref a’r ardaloedd cyfagos sy’n defnyddio’r orsaf. 

Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun 28 Chwefror a bydd un lôn o’r A4042 ar gau tua’r de, rhwng cylchfannau’r Horse and Jockey a Skewfields.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Ar ôl  10 mlynedd, rwy’n falch ein bod ni mewn sefyllfa i ddechrau’r gwaith ar y prosiect pwysig yma.

"Bydd ailddatblygiad Gorsaf Drenau Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd yn cynyddu cyfleoedd pobl ar draws y fwrdeistref i deithio mewn ffordd fwy cynaliadwy.

"Bydd hefyd yn cefnogi trigolion sy’n byw yn rhai o’n hardaloedd mwyaf difreintiedig ble mae’r nifer sy’n berchen ar gar yn isel. Gall diffyg trafnidiaeth fod yn rhwystr i geisio am swyddi ac addysg bellach ac rydym yn gobeithio y bydd y prosiect yma’n rhoi cyfleoedd i bobl yn y fwrdeistref ac ardaloedd cyfagos." 

Ariennir y cynllun gan Gyngor Torfaen, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru, a bydd yn un o gynlluniau Metro Plus cyntaf Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Dywedodd Rachel Jowitt, Prif Swyddog Cyngor Torfaen ar gyfer Cymdogaethau, Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd: "Rydym yn falch y bydd hwn yn un o’r cynlluniau cyntaf i gael ei ddatblygu fel rhan o ddatblygu Metro De Cymru.

"Nod y prosiect yma yw trawsnewid Gorsaf Drenau Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd i fod yn hwb allweddol ar gyfer teithio yn rhanbarth de Cymru.  Bydd yn un o ychydig yng Nghymru i fod â chyfleuster parcio a theithio y mae mynd iddo’n uniongyrchol o gefnffordd, a bydd hyn yn gwella mynediad i’r orsaf ar gyfer pobl â cheir, seiclwyr a theithwyr ag anableddau."

Am fwy o wybodaeth am deithio llesol yn Nhorfaen, cliciwch yma.  

Diwygiwyd Diwethaf: 16/06/2023 Nôl i’r Brig