Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 22 Mawrth 2024
Hoffem rhoi gwybod i drigolion bod y gwaith oedd ei angen i dorri coed ynn a choed eraill oedd wedi’u heintio oedd yn peri risg i’r briffordd ar hyd Foundry Road, Abersychan, wedi'i gwblhau'n llwyddiannus.
Rydym yn cydnabod bod yr estyniad nas rhagwelwyd i’r gwaith hanfodol hwn wedi achosi anghyfleustra ychwanegol, ac am hynny, ymddiheurwn o waelod calon.
Ein rhagamcan cychwynnol oedd cwblhau'r dasg hon o fewn pythefnos. Fodd bynnag, yn ystod y broses, darganfu ein contractwyr mwy o goed ansefydlog a oedd yn peri risg i’r priffyrdd. I dynnu'r coed dan sylw, roedd rhaid ymestyn cyfnod y gwaith y tu hwnt i'r cyfnod gwreiddiol a rhagwelwyd.
Yn ogystal â chael gwared ar y coed ansefydlog dan sylw, fe wynebodd y contractwr heriau mwy na’r disgwyl wrth weithio’n agos at geblau pŵer uwchben, a bu’n rhaid iddo hefyd weithio o amgylch cerbyd nad oedd modd ei symud.
O ran y bwlch a adawyd wrth dorri’r coed, byddwn yn cynnal arolwg ar y safle ar ddiwedd yr haf i weld pa adfywio naturiol sydd wedi digwydd.
Os nad oes digon o aildyfiant naturiol, bydd cynllun plannu yn cael ei baratoi i ailstocio’r ardal. Bydd amrywiaeth o rywogaethau’n cael eu hailblannu yn cynnwys y ddraenen ddu, y ddraenen wen, y geiriosen, y fasarnen fach a’r gerddinen sydd i gyd yn frodorol i’r wlad hon.
Unwaith eto ymddiheurwn am yr anghyfleustra a'ch dealltwriaeth yn ystod y gwaith hanfodol hwn.