Tapestrïau Broad Street Blaenafon yn cael eu harddangos am yr eildro

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 21 Chwefror 2022

Bydd dau dapestri 18 troedfedd sy’n cyfleu atgofion o ddwy ochr o Broad Street hanesyddol Blaenafon yn cael eu harddangos yn gyhoeddus unwaith eto.

Ar ôl cael eu harddangos am y tro cyntaf yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon ym mis Ionawr, bydd y tapestrïau crefftus yn cael eu harddangos am yr eildro yn Neuadd y Gweithwyr Blaenafon.

Byddant ar gael i’w gweld o ddydd Llun 28 Chwefror tan ddydd Gwener 4 Mawrth rhwng 10am -3pm. Mae mynediad i'r arddangosfa hon yn rhad ac am ddim. Nid oes angen archebu lle. Bydd yr arddangosfa o ddiddordeb i bob oed.

Mae’r arddangosfa sy’n cyfleu hanes cymdeithasol, byw, yn cynnwys siopau nad ydynt bellach yn bodoli ar Broad Street. Mae'r tapestrïau hefyd yn cynnwys nifer o recordiadau sain wedi'u hymgorffori, i alluogi ymwelwyr i wrando ar yr atgofion a welir yn y tapestrïau.

Datblygwyd a chyflwynwyd yr arddangosfa gan y sefydliad celfyddydau cymunedol lleol Head4Arts, a hynny, ochr yn ochr â Penny Turnbull, artist tecstilau o’r Fenni, a Natasha James, arbenigwraig digidol o Ferthyr Tudful.

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Gall treftadaeth olygu gwahanol bethau i wahanol bobl a gall fod yn unrhyw beth o’r gorffennol yr ydym yn ei werthfawrogi ac yn dymuno ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.

“Mae’r £1,600,000 yr ydym wedi’i ddyfarnu i Raglen Treftadaeth Treflun Blaenafon yn cefnogi adfywio treftadaeth ffisegol a chymunedol Blaenafon trwy grantiau adeiladu wedi’u targedu ar gyfer eiddo a nodwyd a mentrau cymunedol fel yr Arddangosfa Tapestri hon.

“Gwireddwyd hyn diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy’n codi mwy na £30 miliwn bob wythnos at achosion da yn y DU.

“Mae ein rhaglen grantiau ‘Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol – £3,000 i £10,000’ ar agor ar hyn o bryd a hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am y rhaglen hon i ymweld â thudalen Cymru ar ein gwefan. – www.heritagefund.org.uk, i gael mwy o fanylion.”

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros Sgiliau, Economi ac Adfywio, “Mae’n wych clywed bod y tapestri yn cael ei arddangos eto. Bydd hyd yn oed mwy o bobl nawr yn cael y cyfle i ymweld â’r arddangosfa hynod ddiddorol hon ym Mlaenafon.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymweld â’r arddangosfa ac i weld a chlywed yr atgofion hyn. Mae’r grwpiau a’r unigolion a gymerodd ran yn y prosiect hwn wedi cyflawni llawer iawn ac unwaith eto hoffwn ddiolch i bawb sy’n ymwneud â’r Bartneriaeth Rhaglen Treftadaeth Treflun sy’n galluogi i brosiectau fel y rhain ddod yn fyw.”

Dywedodd Gareth Davies, Cadeirydd Partneriaeth Rhaglen Treftadaeth Treflun Blaenafon: “Fel Cadeirydd y Bwrdd RhTT, rwyf wrth fy modd bod yr arddangosfa hon wedi bod yn gymaint o lwyddiant, yn gymaint bod cymuned Blaenafon wedi gofyn i ni i’w chynnal eto'.

“Am deyrnged i bawb a greodd y tapestri ac ychwanegu eu llais. Rwy’n gobeithio y bydd mwy o bobl yn dod i weld y darn hwn o waith crefftus hardd ac yn clywed y recordiadau sain o atgofion ein cymuned o Broad Street. Da iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith creu. Rydych chi wir wedi dod â Broad Street Blaenafon yn fyw.”

Dywedodd y Cynghorydd Janet Jones, Hyrwyddwr Treftadaeth y Byd Blaenafon, “Ail gyfle gwych i weld y tapestri rhagorol o gyn siopau yn Broad Street, gan ddod â chymaint o atgofion yn ôl. Yn ddiweddar es â fy mam 97 oed i'w weld ac mae hi dal i fod yn siarad amdano. Rhoddodd lawer o bleser iddi.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Alan Jones, cynrychiolydd Cyngor Tref Blaenafon yn y RhTT: "Mae'n hanfodol bod statws Treftadaeth y Byd Blaenafon yn cael ei gadw'n fyw. Mae'r prosiect tapestri yn cyflawni'r gofyniad hwn yn hyfryd."

Dywedodd Kate Strudwick, Head 4 Arts, “Mae’n hyfryd cael cyfle arall i bobl leol archwilio’r gwaith celf rhyngweithiol anhygoel hwn a chlywed y straeon y mae’n eu hysgogi o’u profiadau eu hunain o siopa yno.”

Mae Rhaglen Treftadaeth Treflun Blaenafon (THP) yn cefnogi adfywio treftadaeth ffisegol a chymunedol ym Mlaenafon trwy grantiau adeiladu wedi'u targedu ar gyfer eiddo penodol a mentrau cymunedol. Mae gweithgareddau cymunedol y rhaglen yn ein helpu i ymgysylltu ar draws cymuned Blaenafon i archwilio cysylltiadau personol pobl â’u treftadaeth, a dathlu Statws Treftadaeth y Byd eu tref.

Mae Partneriaeth Treftadaeth Treflun Blaenafon yn cael ei darparu drwy gyfraniadau ariannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cyngor Tref Blaenafon, Cadw a pherchnogion eiddo preifat.

Bydd ymwelwyr â’r arddangosfa tapestri hefyd yn gallu ymweld ag Amgueddfa Gymunedol Blaenafon (tâl mynediad bychan i’r amgueddfa yn unig) sydd wedi’i lleoli yn Neuadd y Gweithwyr Blaenafon.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/02/2022 Nôl i’r Brig