Hybiau cynnes newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 22 Rhagfyr 2022
Mind

Mae saith hwb cynnes newydd yn cael eu sefydlu yn Nhorfaen, diolch i gyllid gwerth dros £35,000 gan Lywodraeth Cymru.

Fe wnaeth naw sefydliad gyflwyno cais am grantiau i ddarparu mannau cynnes, yn cynnwys dau sydd eisoes yn rhedeg hybiau cynnes ym Myddin yr Iachawdwriaeth a Tasty not Wasty yng Nghwmbrân.

Bydd yr hybiau newydd yng: 

  • Nghanolfan Gymunedol Bryn Eithin
  • Eglwys Sharon, Pont-y-pŵl
  • St Mary's Croesyceilliog
  • Eglwys Fethodistaidd Fairhill yng Nghwmbrân
  • Stadiwm Cwmbrân

Dywedodd Andrew Goodwin o Mind Torfaen a Blaenau Gwent, ym Mhont-y-pŵl: “Am y tro cyntaf, mae’r arian wedi caniatáu inni ddarparu lle cynnes a chroesawgar am ddim.

“Byddwn yn cynnig lluniaeth, yn ogystal â chyfle i ddefnyddio’r gegin, cyfleusterau golchi, sychu a chawodydd, ochr yn ochr â chyswllt di-wifr a theledu am ddim.

“Gallwn hefyd helpu gyda chyngor a chefnogaeth gyda chyflogaeth, banciau bwyd a chyfle i ddefnyddio cyfrifiadur.”

Disgwylir i’r hybiau newydd agor yn y flwyddyn newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau yng Nghyngor Torfaen: “Rwy’n falch ein bod wedi gallu cefnogi’r sefydliadau hyn i ddarparu hybiau cynnes newydd, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

“Rydyn ni am barhau i’w cefnogi ac rydym yn ystyried sefydlu hybiau newydd lle mae’r galw heb ei ddiwallu, yn enwedig gyda’r nos, fel y gall y rhai sy’n gweithio yn ystod y dydd, hefyd gael cefnogaeth.

“Bydd y cyngor yn ceisio ymestyn ein gwaith gyda’r trydydd sector a phartneriaid cymunedol sydd mewn sefyllfa dda i ddeall anghenion eu cymunedau. Mae cyfle hefyd i ddarpariaeth y sector preifat a allai fod eisiau cefnogi hybiau. ”

Mae’r sefydliadau hefyd yn cael eu cefnogi gan raglen Drysau Agoriadol ‘Cynghreiriau Gwirfoddol Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/12/2022 Nôl i’r Brig