Wedi ei bostio ar Dydd Iau 11 Awst 2022
Mae pum pwyllgor craffu Cyngor Torfaen wedi cytuno pa bynciau y byddent yn eu hystyried yn ystod y flwyddyn nesaf.
Mae adolygiad o ddarpariaeth beicio yn y fwrdeistref, Strategaeth Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon y Cyngor a mynediad i Ysgol Ddydd Arbennig Crownbridge ymhlith y materion a awgrymwyd gan drigolion lleol a fydd yn cael eu craffu.
Gallwch awgrymu pynciau eraill – a rhoi eich barn ar adroddiadau’r pwyllgorau – drwy ein safle Dweud Eich Dweud Torfaen.
I gael gwybodaeth am y broses Trosolwg a Chraffu, ewch i’n gwefan.
Gallwch wylio cyfarfodydd yn fyw neu eu lawrlwytho drwy glicio yma.
Ni all y pwyllgorau wneud penderfyniadau ar ran y Cyngor, ond gallent sicrhau bod y sawl sydd yn gwneud hynny yn cymryd penderfyniadau cadarn yn y ffordd iawn, ac yn gwerthfawrogi’r farn ehangach yn llawn.
Dyma’r pynciau y bydd pob pwyllgor craffu yn eu hystyried yn ystod 2022/2023 (nodwch y gall yr eitemau newid yn seiliedig ar faterion sy’n codi o Gynllun Gweithredol Gwaith ar y Dyfodol, materion perfformiad neu faterion brys eraill):
ADDYSG
Cadeirydd: Y Cynghorydd Rose Seabourne
Gwelliannau i Brosesau Hunan-werthuso a Gwella o fewn Addysg: 5 Hydref
Presenoldeb Disgyblion – Rhai sy’n Absennol yn Aml: 23 Tachwedd
Gwella Ysgolion – Cynllun Gweithredol ar ôl Arolygiad: 2 Chwefror
Anghenion Addysg Ychwanegol – Cynllun Gweithredu ar ôl Arolygiad: 16 Mawrth
Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif: 4 Mai
CYMUNEDAU IACHACH
Cadeirydd: Y Cynghorydd Janet Jones
Effaith Tŷ Glas y Dorlan: 21 Medi
Gofal Cartref: 9 Tachwedd
Gwytnwch ymunedau: Rhagfyr
Gostwng Poblogaeth Plant sy’n Derbyn Gofal Torfaen: 19 Ionawr
Argyfwng Tai (i gynnwys Grant Cymorth Tai ac arolwg o’r Polisi Homeseeker): 2 Mawrth
Brysbennu Atgyfeiriadau yn Ddiogel: Dyddiad cyfarfod i’w gadarnhau
CYMUNEDAU GLANACH
Cadeirydd: Y Cynghorydd Steven Evans
Rheoli Chwyn: Medi
Seilwaith Gwyrdd: Tachwedd
Ailgylchu – Cyflawni Targed Ailgylchu 70% ar gyfer 2024-25: Ionawr
Teithio Llesol – Newid ymddygiad i annog symud o’r car i deithio llesol: Cyfarfod i’w gadarnhau
Cyflenwi Strategaeth Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon y Cyngor: ar ôl mis Mawrth
CYMUNEDAU FFYNIANNUS
Cadeirydd: Y Cynghorydd David Thomas
Springboard a’r Ecosystem Arloesi: 13 Hydref
Adran 106 Cytundebau Cynllunio: 1 Rhagfyr
Prosiect Adfywio’r British: 9 Chwefror
Ymyraethau Disgyblion Aml-asiantaeth: 23 Mawrth
PWYLLLGOR TROSOLWG A CHRAFFU TRAWSBYNCIOL
Cadeirydd: Y Cynghorydd Stuart Ashley
Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol (CCS) Adroddiad Blynyddol: 14 Medi 2021/22
Adroddiad Blynyddol Lles a Pherfformiad: 4 Hydref
Cynllunio Ariannol 2023/24: Tachwedd a Chwefror
Gweithredu a Symud ar Gynllun Datblygu Plant a Phobl Ifanc: Dyddiad y cyfarfod i’w gadarnhau
Cynllun Gweithredu Argyfwng Newid yn yr Hinsawdd: Dyddiad y cyfarfod i’w gadarnhau
(Yn glocwedd: y Cynghorydd Steven Evans, y Cynghorydd David Thomas, y Cynghorydd Rose Seabourne, y Cynghorydd Stuart Ashley a’r Cynghorydd Janet Jones)