Wedi ei bostio ar Dydd Iau 4 Awst 2022
Mae’r haf ar fin mynd yn well!
Fel rhan o Haf o Hwyl Torfaen, bydd Llyfrgelloedd Torfaen yn cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau am ddim drwy gydol mis Awst, gan gynnwys gweithdai gwyddoniaeth, gwneud llysnafedd, sesiynau ar greu robotiaid Lego a straen a chrefftau. Mae rhai sesiynau yn llawn yn barod, felly ewch ati a bwcio lle heddiw.
Gall plant hefyd fenthyg blychau llyfrau Teclynwyr, sydd wedi eu hanelu at egin wyddonwyr a pheirianwyr, AC mae amser o hyd i gymryd rhan yn Her Ddarllen flynyddol yr Haf.
Meddai Emma Day, Llyfrgelloedd Torfaen: “Mae llawer o weithgareddau am ddim yn mynd ymlaen yn Nhorfaen yr haf yma, ac rydym wrth ein boddau bod y gwasanaeth llyfrgell yn gallu cynnig hyd yn oed mwy o weithgareddau nag arfer, diolch i’r cyllid ychwanegol sydd ar gael i ni gan Lywodraeth Cymru.
“Rydym yn edrych ymlaen at weld pawb yn cael hwyl yn y sesiynau, ac ni allwn aros i weld creadigaethau pawb.”
Gallwch weld beth sy’n digwydd yn eich llyfrgell leol ar wefan Cysylltu Torfaen neu drwy ddilyn Llyfrgelloedd Torfaen ar Facebook.
Mae’r rhaglen Haf o Hwyl, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi ei hanelu at blant a phobl ifanc 0-25 oed. Mae rhagor o wybodaeth ar beth sydd ar gael yma.
Mae’r gweithgareddau hefyd yn cael eu cefnogi gan Yr Asiantaeth Ddarllen, sy’n cydgysylltu digwyddiadau mewn llyfrgelloedd ledled Cymru yr haf yma, ac sy’n darparu’r blychau llyfrau Teclynwyr.
Peidiwch ag anghofio bod Her Ddarllen yr Haf yn ôl, ac eleni mae’n fwy dyfeisgar nag erioed! Cymerwch ran heddiw drwy fynd i’ch llyfrgell leol i gofrestru ar gyfer her eleni, gyda’r thema ‘Teclynwyr’. Bydd pob plentyn yn derbyn poster Teclynwyr, i gasglu sticeri arbennig wrth iddynt ddarllen, i gwblhau eu poster, ynghyd â gwobrau ychwanegol. Mae yna hyd yn oed her fach i ddarllenwyr bach iawn.
Rhagor o wybodaeth am lyfrgelloedd yn Nhorfaen.