Dychwelyd i gyfnod benthyca tair wythnos yn Llyfrgelloedd Torfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 18 Mai 2022

O ddydd Llun 23 Mai 2022 bydd Llyfrgelloedd Torfaen yn dychwelyd at gyfnod o dair wythnos ar gyfer benthyg llyfrau. 

Bydd llyfrau sy’n cael eu benthyg o’r dyddiad yma ymlaen yn cael eu stampio â dyddiad ‘dychwelwch erbyn’ ac ni fyddant bellach yn cael eu hadnewyddu’n awtomatig.  Gall cwsmeriaid sydd am ymestyn y dyddiad dychwelyd y tu hwnt i’r cyfnod o dair wythnos adnewyddu eitemau yn bersonol yn unrhyw un o’n llyfrgelloedd, dros y ffôn, ar-lein trwy dudalennau Llyfrgelloedd Torfaen ar y we, neu drwy’r ap lyfrgelloedd ‘Pori’.

Bydd unrhyw daliadau sydd wedi cronni ar gyfrifon cwsmeriaid yn ystod y cyfnod clo yn cael eu dileu, er y bydd angen o hyd efallai i dalu unrhyw daliadau sy’n ddyledus ers cyn Mawrth 2020.

Siaradwch ag aelod o’r staff os oes unrhyw gwestiynau gennych. 

Dychwelyd i gyfnod benthyca tair wythnos yn Llyfrgelloedd Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/05/2022 Nôl i’r Brig