Awdur a bardd arobryn yn ymweld â llyfrgell yn Nhorfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 8 Medi 2023
cwmbran library

Mae Bardd Plant Waterstone’s, Joseph Coelho, wedi ymweld â Llyfrgell Cwmbrân heddiw fel rhan o ‘Marathon Llyfrgelloedd’ gyda’r bwriad o annog pobl, yn ifanc ac yn hen, i ymuno â’u llyfrgell leol.

Mae’r bardd, dramodydd ac awdur plant arobryn ar daith ar draws y wlad i ymuno â dros 200 o lyfrgelloedd yn y DU.

Heddiw, bu’n cyfarfod â disgyblion blwyddyn 4 o Ysgol Gynradd Mair a’r Angylion a phlant sy’n cael eu haddysg gartref, ac arweiniodd sesiwn darllen stori a barddoniaeth a chodi ei lyfr cyntaf fel aelod newydd o Lyfrgelloedd Torfaen.

Ymysg yr adborth gan ddisgyblion ac athrawon a gymerodd ran yn y sesiwn, oedd:

“Roedd y ddoniol iawn.  Roedden i’n hoffi’r darn ble rhoddodd pawb air yn y canol ac ychwanegu coesau pry copyn i ddisgrifio’r gair yn y canol.” - Harry

“Roedd yr awdur yn ddoniol iawn ac fe ysgrifennon ni gerdd am bicls!” – Summer

“Sesiwn hyfryd a diddorol.  Digon o gyfle am gwestiynau ac ateb ac i blant rannu eu syniadau.  Doniol iawn!” – Mrs Hodgson

Dywedodd Joseph Coelho, Bardd Plant Waterstone’s 2022-2024: “Rwy’n hynod o falch o gael dod a fy nhaith Marathon Llyfrgelloedd i Gymru.  Trwy lyfrgelloedd, des i’n awdur ac maen nhw’n gwneud i gymunedau ffynnu. Maen nhw wedi bod yn rhan hanfodol o fy mywyd: o fyw ar ystadau ble roedd gen i lyfrgell drws nesa, i fy swydd gyntaf ar ddydd Sadwrn, i weithio yn y Llyfrgell Brydeinig pan oeddwn i yn y Brifysgol, i sioeau teithio theatrau a grëwyd i gael eu perfformio mewn llyfrgelloedd.

“Rwy’n hynod o ddiolchgar i lyfrgelloedd a’r gwasanaethau y maen nhw’n eu cynnig, felly rydw i am ddefnyddio fy llwyfan fel Bardd Plant Waterstone’s i hyrwyddo’r deorfeydd dysgu hanfodol yma.  Rydw i am gofleidio pob llyfrgell, y sefydliadau gwyrthiol yma ble mae gorwelion newydd ar bob silff, ble mae meddyliau’n mynd i dyfu.”

Dechreuodd taith naw diwrnod Joseph Coelho trwy Gymru ar 6 Medi ac mae hi wedi ei threfnu gan yr Ymddiriedolaeth Lyfrau a Llenyddiaeth Cymru.

Mae Her Darllen yr Haf eleni ‘Ar eich Marciau, Darllenwch!’, wedi bod yn llwyddiant mawr gydag ymhell dros 1000 o blant ledled Torfaen yn cofrestru i gymryd rhan.

Daw’r her i ben ddydd Llun 25 Medi felly mae amser o hyd i orffen, codi medal, a thystysgrif a chael cyfle i ennill gwobr.

Os nad ydych chi’n aelod o lyfrgell eisoes, gallwch gofrestru yma: https://orlo.uk/fSnwz

 

Diwygiwyd Diwethaf: 08/09/2023 Nôl i’r Brig