Sialens Ddarllen yr Haf ar fin Dechrau

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 3 Gorffennaf 2025
srcwinner2024_original

Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn dechrau mewn llyfrgelloedd ledled Torfaen ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf.

Gwahoddir plant rhwng 4 ac 11 oed i gofrestru ar gyfer y sialens genedlaethol i ddarllen chwech neu fwy o lyfrau llyfrgell, neu wrando arnynt, dros yr haf. Mae llyfrau, e-lyfrau a llyfrau llafar i gyd yn cyfrif tuag at y Sialens.

Thema eleni yw Gardd o Straeon, ac mae’n anelu at ysbrydoli plant i archwilio'r cysylltiad rhwng adrodd straeon a byd natur.

Bydd y plant yn cael casglu gwobrau difyr ar hyd y daith, gan gynnwys sticeri, llyfrnodau a bagiau.

Mae yna gyfle hefyd i fachu tocyn rhodd gwerth £100 ar gyfer Siop Deganau Smyths, pan fydd un enillydd lwcus yn cael ei ddewis ar hap wedi i’r Sialens ddod i ben.

A'r rhan orau? Dydy’r sialens ddim yn costio ceiniog!

Gallwch ymuno â Llyfrgell Torfaen am ddim a gallwch gofrestru i gael cerdyn llyfrgell naill ai trwy fynd i wefan Cyngor Torfaen neu alw heibio i'ch llyfrgell leol.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei chynnal gan The Reading Agency sydd wedi cydweithio â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r elusen gelfyddydol Create ar gyfer y Sialens eleni.

Mae yna gyfres gyffrous o ddigwyddiadau am ddim yn Llyfrgelloedd Torfaen trwy gydol gwyliau'r haf hefyd, o ddigwyddiadau arbennig i sesiynau Amser Rhigwm bywiog a chlybiau Lego.

Bydd y sesiynau Stori a Chrefft poblogaidd hefyd yn dychwelyd i blant rhwng 5 a 10 oed, yn y tair llyfrgell, trwy gydol mis Awst.

Does dim angen i blant iau golli allan hefyd, gan fod sialens fach hefyd ar gael i blant dan 4 oed.

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn gyfle gwych i ennyn cariad plant at ddarllen ac yn eu helpu i barhau i ymgysylltu’n academaidd dros wyliau'r haf. Y llynedd gwelsom fwy na 900 o blant yn cymryd rhan!

"Yn ôl yr ymchwil, gall darllen yn rheolaidd roi hwb i eirfa, dealltwriaeth a sgiliau meddwl beirniadol—gan roi dechrau da i blant wrth iddynt ddychwelyd i'r ysgol ym mis Medi.

"Er ein bod ni’n gweithio'n galed i gefnogi plant a theuluoedd trwy gydol y flwyddyn, mae gwyliau'r haf yn amser perffaith i archwilio straeon newydd, magu hyder i ddarllen, a mwynhau'r dewis eang o weithgareddau am ddim sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd."

I gael rhagor o wybodaeth am Sialens Ddarllen yr Haf a'r gweithgareddau sydd ar y gweill, ewch i'ch llyfrgell leol, dilynwch Llyfrgelloedd Torfaen Libraries ar Facebook neu ffoniwch 01633 647676.

Diwygiwyd Diwethaf: 03/07/2025 Nôl i’r Brig