Llyfrgelloedd Torfaen

Mae gan Lyfrgelloedd Torfaen lawer i'w gynnig - beth bynnag fo'ch diddordebau!

Fel y byddech yn ei ddisgwyl mae gennym ddewis ardderchog o lyfrau. Os ydych angen astudio, dysgu sgil newydd, adolygu ar gyfer arholiad neu ddarllen llyfr yn y gwely, gallwn ni eich helpu. Mae gennym hefyd lyfrau print bras a llyfrau llafar ar gryno ddisgiau.

Mae gan bob llyfrgell adnoddau cyfrifiadur fel y gallwch bori'r rhyngrwyd, anfon ebost, neu ddefnyddio adnoddau prosesu geiriau a thaenlenni - am ddim!  Dim ond am argraffu y codir tâl. Mae pobl sydd yn chwilio a hawlwyr budd-daliadau yn cael eu hawl i gael allbrintiau a llungopïau am ddim o fewn rheswm wrth gynnal busnes cysylltiedig.

Ochr yn ochr â llyfrau cyfeirio mwy traddodiadol, gallwch gael gwybodaeth am eich hawliau a darganfod y byd o wybodaeth sydd ar gael ar y we. Byddwn yn gwneud ein gorau i'ch helpu chi i ddod o hyd i'r wybodaeth rydych ei heisiau!

Mae croeso i fabanod a phlant hefyd! Mae dewis gwych o lyfrau yma ar gyfer pob oed o fabanod i oedolion ifanc. Gall plant hefyd ddefnyddio adnoddau TGCh, a dod draw i ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig.  Mae Llyfrgelloedd Cwmbrân a Blaenafon yn cynnal Clybiau Cymorth Gwaith Cartref, a printio am ddim mewn niferoedd rhesymol.

Ymaelodwch am ddim! Dewch a phrawf o'ch enw a chyfeiriad neu gallwch Ymaelodi Ar-lein.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Torfaen Libraries

Ffôn: 01633 647676

E-bost: cwmbran.library@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig