System Archebu drwy Gyfrifiadur
Croeso i System Archebu Cyfrifiadur y Llyfrgelloedd.
Os ydych yn dymuno defnyddio cyfrifiadur yn unrhyw un o'r llyfrgelloedd yn Nhorfaen, gallwch archebu amser ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.
- Gallwch archebu amser hyd at 8 diwrnod ymlaen llaw
- Gallwch archebu amser ar gyfrifiadur yn unrhyw un o Lyfrgelloedd Torfaen
- Os ydych yn anghofio faint o'r gloch neu ym mha lyfrgell rydych wedi archebu amser ar gyfrifiadur gallwch wirio'n defnyddio'r adnodd dod o hyd i archeb
Mae sesiynau am uchafswm o 2 awr i oedolion a 30 munud i blant i ddechrau, ond yn amodol ar faint sydd ar gael gellir ymestyn cyfnod y sesiwn.
I archebu amser ar gyfrifiadur y llyfrgell, defnyddiwch y system archebu cyfrifiadur ar lein.
Nodwch os gwelwch yn dda y bydd angen rhif adnabod personol arnoch i fynd ar y system. Os nad oes gennych rif adnabod personol ar hyn o bryd, cysylltwch â'ch llyfrgell leol.
Mae copi o'r Polisi Defnydd Derbyniol ar gyfer defnyddio cyfrifiaduron Mynediad Cyhoeddus gael i'w lawrlwytho yma.
Diwygiwyd Diwethaf: 01/02/2022
Nôl i’r Brig