Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 21 Hydref 2022
Bydd Sophie Hyde yn gallu prynu llawer iawn o lyfrau newydd wedi iddi gwblhau her darllen genedlaethol.
Roedd hi’n un o fwy na 700 o blant wnaeth gymryd rhan yn Her Darllen yr Haf ‘Gadgeteers’ eleni oedd yn cael ei redeg gan Lyfrgelloedd Torfaen.
Cafodd Sophie docyn rhodd am £100 ar gyfer Smyths Toy Store wedi i’w henw gael ei ddewis ar hap o restr o bron i 300 o blant wnaeth gwblhau’r her.
Mae Her Darllen yr Haf yn gystadleuaeth genedlaethol sy’n cael ei rhedeg gan The Reading Agency. Mae’r her yn annog teuluoed i ymweld â’u llyfrgell leol yn ystod gwyliau’r Haf ac mae’n gofyn i blant rhwng pedair ac un ar ddeg mlwydd oed i fenthyg a darllen unrhyw chwe llyfr o’r llyfrgell yn ystod yr amser hwn.
Dywedodd Shelly Hyde, mam Sophie: “Mae Sophie a’i chwaer Emma wrth eu boddau’n mynd i’r llyfrgell i ddarganfod llyfr newydd i ddod ag ef gartref, a llyfr sain i wrando arno yn y car.
“Fe wnaethon nhw wir fwynhau ymweld yn ystod gwyliau’r ysgol ac roedden nhw’n falch iawn o gael medal ar ddiwedd Her Darllen yr Haf.”
Cyflwynwyd y tocyn rhodd i Sophie, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Pontnewydd, ynghyd â thystysgrif a medal mewn gwasanaeth ysgol arbennig.
Meddai’r Cynghorydd Joanne Gaude, Swyddog Gweithredol dros Sgiliau, yr Economi ac Adfywio: “Mae darllen yn sgil bywyd pwysig, ac os allwn ni annog pobl ifanc i fwynhau darllen pan maen nhw’n ifanc, gobeithio y byddan nhw’n parhau i fwynhau darllen wrth iddyn nhw fynd yn hŷn.
“Hoffwn longyfarch pawb wnaeth gymryd rhan yn yr her, yn enwedig Sophie, oedd yn ddigon lwcus i gael ei choroni’n enillydd eleni.”
Gallwch ddarganfod mwy am y gwasanaeth llyfrgell yn Nhorfaen a’u dilyn ar Facebook a Twitter.