Babis Angen Llyfrau

Dechrau'n Ifanc

Mae plant sy'n gwrando ar storiau yn dysgu llawer o eiriau a brawddegau newydd.  Mae dysgu i fwynhau llyfrau yn rhoi dechrau da i blant ifanc pan fyddant yn mynd i grŵp chwarae, meithrinfa a'r ysgol.

Ac mae darllen yn ffordd wych o dreulio amser gyda'ch gilydd ac mae'n hwyl!

'Dych chi byth yn rhy ifanc i ymuno â'r llyfrgell

Mae croeso i fabis a phlant bach mewn llyfrgelloedd hyd yn oed os ydyn nhw'n aflonydd a swnllyd weithiau.

Rydym eisiau i blant fwynhau llyfrgelloedd a dysgu i garu llyfrau o oedran ifanc.

Mae gan eich llyfrgell leol amrywiaeth eang o lyfrau i fabis a phlant sydd heb ddechrau'r ysgol yn cynnwys llyfrau bwrdd, llyfrau lluniau, llyfrau yn Gymraeg, rhigymau a barddoniaeth.

Mwy na llyfrau'n unig

Dewch i fwynhau Amser Rhigwm i Fabanod, sesiynau stori a gweithgareddau dros y gwyliau. Gall aelodau’r llyfrgell ddefnyddio ein cyfrifiaduron cyhoeddus ac mae mynediad am ddim i’r rhyngrwyd drwy gyswllt diwifr hefyd ar gael.

Helfa Lyfrau Dechrau Da

Gofynnwch am gerdyn casglwr Helfa Lyfrau yn eich llyfrgell leol!

Casglwch sticeri bob tro y byddwch yn ymweld â'r lyfrgell am dystysgrifau.

Llyfrau Llesol

Mae gan bob teulu gwestiynau neu anawsterau o bryd i'w gilydd. Mae'r casgliad Llyfrau Llesol yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am amryw o bynciau, fel bwlian, problemau cysgu, defnyddio'r poti, ysgariad a llawer o faterion eraill.

Grwpiau Chwarae a Chlybiau Plant Bach

IOs ydych yn warchodwr plant cofrestredig neu yn cymryd rhan mewn rhedeg grŵp i blant dan 5 gallwch fenthyg hyd at 20 llyfr ar y tro i'r grŵp eu defnyddio.

Mae staff y llyfrgell bob amser yn falch o drefnu ymweliadau i glybiau chwarae a phlant bach.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'ch llyfrgell leol.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Llyfrgelloedd Torfaen 
Ffôn: 01633 647676
E-bost: cwmbran.library@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig