Babis yn Caru Llyfrgelloedd!

Mae plant sy’n gwrando ar straeon yn dysgu llawer o eiriau a brawddegau newydd. Mae dysgu mwynhau llyfrau yn rhoi cychwyn da i blant pan fyddant yn mynd i gylch chwarae, i feithrinfa ac i’r ysgol.

Ac yn fwy na hynny, mae darllen yn ffordd wych o dreulio amser gyda’n gilydd, ac mae’n hwyl!

Dydych chi byth yn rhy ifanc i ymuno â’r llyfrgell. Mae croeso i fabis a phlant ifanc yn y llyfrgelloedd hyd yn oed os ydynt weithiau’n aflonydd a swnllyd.

Rydym eisiau i blant fwynhau llyfrgelloedd a dysgu caru llyfrau o oedran cynnar.

Mae gan eich llyfrgell leol amrywiaeth o lyfrau i fabis a phlant cyn oedran ysgol gan gynnwys llyfrau cardbord, llyfrau luniau, rhigymau a llyfrau Cymraeg.

Gofynnwch am gerdyn casglwr Helfa Lyfrau yn eich llyfrgell leol! Cewch chi sticer bob tro y byddwch yn mynd i’r llyfrgell ac fe gewch dystysgrifau lliwgar.

Cynhelir sesiynau rhigymau ac adrodd straeon ym mhob un o’n llyfrgelloedd. Mae babis, plant bach a phlant cyn oedran ysgol yn mwynhau caneuon a straeon felly dewch i ymuno â’r hwyl.

Cysylltwch â’ch llyfrgell leol i gael mwy o wybodaeth.

Mae croeso i famau fwydo eu babanod ar y fron ym mhob un o’n llyfrgelloedd.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Llyfrgelloedd Torfaen

Ffôn: 01633 647676

E-bost: cwmbran.library@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig