Cwynion a Chanmoliaeth - Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol

Os ydych yn anfodlon â'r gwasanaethau gofal cymdeithasol rydych chi'n eu derbyn, mae gennych hawl i gwyno.

Rydym yn anelu i gynnal safonau uchel, ond ambell waith gall pethau fynd o chwith. Ni fyddwn yn gallu'ch helpu a cheisio unioni pethau os na fyddwch yn dweud wrthym eich bod yn anfodlon.

Peidiwch â bod ofn cwyno. Rydym yn croesawu eich sylwadau, p'un ai ydynt yn gadarnhaol neu'n negyddol, oherwydd efallai y byddant yn ein helpu i wella ein gwasanaethau i bawb.

Mae dau gam i'r broses gwyno. Mae mwy o wybodaeth am y broses gwyno ar gael yn y daflen Cwynion - Sut i ddweud eich dweud.

Os nad ydych yn fodlon â'r ffordd yr aethom ati i ddelio â'ch cwyn, mae gennych hawl i gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Manylion cyswllt ein swyddog cwynion:
Ffôn: 01495 742164
Ffacs: 01495 766059
E-bost: corporatecomplaints@torfaen.gov.uk

Neu fel arall, gallwch ysgrifennu at y Rheolwr Cwynion/Rhyddid Gwybodaeth, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, Torfaen, NP4 6YB.

Cofiwch bod gennych hawl i gwyno os nad ydych yn fodlon ag ansawdd y gwasanaethau yr ydych yn eu derbyn, ac mae'n ddyletswydd arnom i edrych i mewn i'ch cwyn a cheisio ei datrys.

Dewch i ni weithio gyda'n gilydd i gael pethau'n iawn.

Cwynion yn ymwneud â'r Gymraeg - Safonau'r Gymraeg a Chydymffurfio

Sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol i osod dyletswyddau ar sefydliadau penodol i gydymffurfio â safonau mewn perthynas â'r iaith Gymraeg. Cafodd hyn ei orfodi trwy is-ddeddfwriaeth (Rheoliadau Safonau'r Gymraeg).

Mae'r safonau sydd wedi'u gosod ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi'u nodi yn y ddogfen ‘Hysbysiad Safonau Iaith Gymraeg Cydymffurfiaeth - 30.09.15’

Mae ein holl safonau, gan gynnwys Cyflenwi Gwasanaethau, Llunio Polisi a Safonau Gweithredol ar gael ar ein tudalennau Iaith Gymraeg o’n gwefan, neu yn unrhyw un o swyddfeydd y cyngor.

Bydd cwynion neu bryderon ynghylch y Gymraeg, a’r Saesneg yn dilyn yr amserlenni a'r camau sydd wedi eu nodi ym mholisi Cwynion y Cyngor.

Bydd y Cyngor yn sicrhau bod y swyddogion ymchwilio yn ymgynghori ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol cyn penderfynu a yw'r awdurdod neu'r gwasanaeth wedi gweithredu yn unol â gofynion y ddeddfwriaethol neu'n unol â pholisïau a gweithdrefnau wedi eu cymeradwyo.

Mae swyddogion yn gallu cysylltu â Swyddog Iaith Gymraeg yr awdurdod i gael cyngor wrth ddelio â chwyn yn ymwneud â Safonau'r Iaith Gymraeg.

Os ydych chi o'r farn nad yw'r gŵyn wedi'i datrys yn foddhaol neu fod rhywun yn ymyrryd â'ch rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg, Mae’n bosib cwyno'n uniongyrchol i Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae modd cysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg:

Drwy'r godi'r ffôn: 0845 6033221
Ddrwy anfon e-bost: post@comisiynyddygymraeg.org
Drwy ysgrifennu at: Comisiynydd y Gymraeg, Siambrau'r Farchnad, 5-7 Heol Eglwys Fair, Caerdydd CF10 1AT

Fel arall, gallwch alw’i fewn i unrhyw un o swyddfeydd y cyngor i gael copi o Ganllaw'r Comisiynydd ar wneud cwyn.

Hyfforddiant i Weithwyr y Cyngor

Byddwn yn sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant ar sut i drin cwynion yn effeithiol, yn unol â'r polisi perthnasol. Bydd hyfforddiant yn cael ei gynnig yn Gymraeg neu Saesneg, yn ddibynnol ar ofynion y staff.

Cael help i fynegi’ch pryder 

Os oes angen help arnoch chi i fynegi pryder, gall Llais – eich llais mewn iechyd a gofal cymdeithasol eich helpu i wneud hyn.  Mae Llais yn gorff annibynnol a gall eu gwasanaeth Eiriolaeth am ddim gynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i aelodau’r cyhoedd sydd efallai am fynegi pryder.
 
Gall Llais eich cefnogi i fynegi’ch pryder a gall roi cyngor ynglŷn â’r cam mwyaf priodol. Gallwch gysylltu â’ch swyddfa Llais lleol yn y cyfeiriad canlynol:
 
Gwasanaeth Eiriolaeth
Llais – Rhanbarth Gwent 
Raglan House
6-8 William Brown Close
Parc Busnes Llantarnam 
Cwmbrân
NP44 3AB
 
Ffôn:  01633 838516
E-bost: gwentadvocacy@llaiscymru.org

I fynd at wefan Llais, ewch i www.llaiscymru.org

Canmoliaeth

A ydych wedi cael profiad da wrth ymdrin â'r gwasanaethau gofal cymdeithasol? A oes aelod o staff bod yn arbennig o gynorthwyol?

Os felly, efallai y byddech yn hoffi dweud wrthym am eich profiadau da.

Mae adborth o bob math yn bwysig i ni a hoffech wybod bod y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu yn gweithio'n dda.

Manylion cyswllt win swyddog cwynion:

Ffôn: 01495 742164
Ffacs: 01495 766059
E-bost: corporatecomplaints@torfaen.gov.uk

Neu fel arall, gallwch ysgrifennu at y Rheolwr Cwynion/Rhyddid Gwybodaeth, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, Torfaen, NP4 6YB.

Diwygiwyd Diwethaf: 04/04/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cwynion am y Gwasanaethau Cymdeithasol

Ffôn: 01495 742164

E-bost: corporatecomplaints@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig