Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn disodli Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac fel rhan o'r ddeddfwriaeth newydd :
- Mae gan y Gymraeg statws cyfartal cyfreithiol â'r Saesneg ac ni ddylid ei drin yn llai ffafriol
- Nid oes angen i gyrff cyhoeddus ddatblygu na gweithredu Cynlluniau Iaith Gymraeg
- Mae gan unigolion yr hawl a'r rhyddid i ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd
Fel rhan o'n rhwymedigaethau o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, rhaid i'r Cyngor gyhoeddi strategaeth bum mlynedd sy'n dangos sut y byddwn yn hyrwyddo ac yn hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. Mae'r strategaeth , a gymeradwyd 27 Chwefror 2024, yn amlinellu'r cyfarwyddyd strategol arfaethedig yn ystod 2024 - 2029 fydd yn cynorthwyo twf yr iaith Gymraeg yn y Fwrdeistref ac yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae cyfraniad partneriaid, y sector preifat, y trydydd sector a thrigolion Torfaen yn bwysig o ran cyflawni blaenoriaethau'r Strategaeth.
O'r 30 Mawrth 2016, bydd yn ofynnol i Awdurdodau Lleol, Parciau Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru i gydymffurfio â set benodol o safonau iaith Gymraeg, a gyhoeddwyd o fewn Hysbysiadau Cydymffurfiaeth sy'n disodli'r Cynlluniau Iaith Gymraeg.
Derbyniodd y Cyngor eu Hysbysiadau Cydymffurfio gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 30 Medi 2015. Mae'r ddogfen yn rhestru pa Safonnau (fel y rhestrir yn llawn yn y Rheoliadau Safonau Iaith Gymraeg (Rhif 1) 2015) mae'n rhaid i'r sefydliad gydymffurfio a hwy, ynghyd a dyddiadau gweithredu ac unrhyw eithriadau.
Mae'n ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi dogfen yn nodi sut mae'n bwriadu cydymffurfio ar lefel gorfforaethol gyda’r Safonau a beth yw ei brosesau mewnol ar gyfer goruchwylio a monitro'r gweithredu. Cyhoeddir y ddogfen hon isod.
Mae'r cynnydd yn cael ei gofnodi bob blwyddyn yn yr adroddiad blynyddol. Dyma linc i’n Hadroddiad Blynyddol diweddaraf.
Adroddiadau a Hysbysiadau Penderfyniadau Comisiynydd y Gymraeg
Mae adran 77, Mesur Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 yn caniatáu i'r Comisiynydd Iaith Gymraeg ymchwilio i fethiannau’n ymwneud â chydymffurfio â safonau perthnasol. Gweler isod, yr ymchwiliadau a gyhoeddwyd mewn perthynas a Chyngor Bwrdeistref Sir Torfaen gyda dolen i'r Adroddiad a'r Hysbysiad Penderfynu perthnasol.
Mae'r cyngor yn derbyn yr argymhellion sydd wedi'u cynnwys yn yr Hysbysiadau Penderfynu.
2023 - 2024
Hoffai'r Cyngor annog aelodau o'r cyhoedd i ddweud wrthym os ydyn nhw'n credu nad ydym ni'n cwrdd â’n rhwymedigaethau Safonau Iaith Cymraeg fel y gallwn barhau i wneud gwelliannau i’r gwasanaethau a chynorthwyo cyfathrebu effeithiol.
Diwygiwyd Diwethaf: 18/06/2024
Nôl i’r Brig