Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol
Y Ddeddf Cydraddoldeb 2010
Roedd dau brif bwrpas i gyflwyno Deddf Cydraddoldeb 2010: i gysoni cyfraith gwahaniaethu ac i atgyfnerthu'r gyfraith bresennol i gefnogi cynnydd ar gydraddoldeb.
Mae gan gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru ddau gyfrifoldeb craidd o dan y Ddeddf. Yn gyntaf, wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd a/neu wrth arfer swyddogaethau cyhoeddus, rhaid inni beidio â gwahaniaethu yn erbyn, aflonyddu neu erlid unrhyw unigolyn sydd â "nodwedd warchodedig" boed hynny’n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Yn ail, cyflwynodd y Ddeddf ddyletswydd cydraddoldeb sengl gyffredinol i’r sector cyhoeddus i ddisodli'r dyletswyddau cydraddoldeb hil, anabledd a rhyw. Daeth y ddyletswydd hon i rym ym mis Ebrill 2011 ac mae'n anelu at sicrhau cysondeb ar draws yr holl feysydd cydraddoldeb. Mae'n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus rhoi sylw dyledus wrth gyflawni eu swyddogaethau er mwyn:
- dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth;
- hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a'r rhai nad ydynt; a
- meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt.
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024 - 2028
Yng Nghymru mae'n ofynnol yn benodol bod awdurdod yn datblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CAS) bob 4 blynedd. Bwriad y CAS yw bod yn gyfrwng canolog i gario’r gwahanol bethau y mae Rheoliadau Cynulliad Cymru yn eu gwneud yn ofynnol fel bod un pwynt mynediad i'r cyhoedd. Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid i CAS gynnwys datganiad sy’n nodi disgrifiad o'r awdurdod, amcanion cydraddoldeb yr awdurdod, manylion am y camau y mae'r awdurdod wedi eu cymryd neu'n bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni ei amcanion, pa mor hir y bydd yn ei gymryd er mwyn cyflawni ei amcanion, a manylion am drefniadau y mae wedi gwneud neu yn bwriadu ei wneud i gydymffurfio â'r Rheoliadau.
Gellir gweld datganiad ac amcanion cydraddoldeb Cyngor Torfaen yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
Mae'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol wedi cael ei ddiweddaru i ddangos ymrwymiad y Cyngor i gwrdd â Rheoliadau 2011 y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru), a ddaeth i rym yn 2011. Mae hefyd yn dangos cysylltiadau â deddfwriaethau a rheoliadau eraill sy'n ymwneud â’r Iaith Gymraeg a materion Hawliau Dynol, a hefyd yn cefnogi 3 o'r 7 amcan dan Ddeddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru.
Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2022 - 2023
Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn mynnu y dylid pob awdurdod cyhoeddus sy’n dod o dan y dyletswyddau penodol yng Nghymru gynhyrchu Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol. Mae cynnydd y Cyngor ar ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol, mewn perthynas â'i gyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn cydymffurfio ac yn foddhaol. Mewn perthynas â'r amcanion cydraddoldeb a bennwyd yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 - 2024 gwreiddiol, mae cynnydd sylweddol wedi bod yn y nifer o feysydd allweddol. Gellir gweld y rhain yn yr Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol Cydraddoldeb ar gyfer 2022-2023.
Diwygiwyd Diwethaf: 23/03/2024
Nôl i’r Brig