Panel Anghenion Ychwanegol a Lleoliadau Arbenigol

Fforymau Sy’n Gwneud Penderfyniadau

Mae Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru, 2002 yn cynghori ALl i sefydlu grwpiau amlasiantaeth i gymedroli penderfyniadau mewn modd cyson a chadarn. Mae gan Dorfaen 2 brif Fforwm sy’n gwneud penderfyniadau.

Fforymau Sy’n Gwneud Penderfyniadau
Teitl y FforwmPrif SwyddogaethAmlderAelodateh

Panel ADY

Gwneud penderfyniadau ar brosesau asesu statudol /CDU yr ALl

Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) (Lleoliadau UCD)

Hyfforddiant Meddygol

Bob 3 wythnos

Rheolwr ADY, GSA, CADY Ysgolion, SNAP Cymru, UCD, Allgymorth, Ysgolion Arbennig/CAAA

Panel Lleoliad Arbenigol

Gwneud penderfyniad ar ddisgyblion sydd â lleoliad arbenigol mewn CAAA neu Ysgol Arbennig.

Tymhorol

Rheolwr ADY, GSA, CADY Ysgolion, Allgymorth, Ysgolion Arbennig/CAAA

Rôl y panel yw:

  • Sicrhau bod Torfaen yn cadw at God Ymarfer AAA 2002 a Deddf Cydraddoldeb 2010 o fis Medi 2020, Deddf Addysg ADY a’r Tribiwnlys.
  • Darparu cynrychiolaeth gytbwys o ystod eang o wasanaethau arbenigol i wneud penderfyniadau gwybodus, gwrthrychol a theg ar asesiadau statudol, darpariaeth a lleoliadau ar gyfer disgyblion o bob oed a phob ADY.
  • Gwneud penderfyniadau gwrthrychol ar sail tystiolaeth ar geisiadau am adnoddau ychwanegol / darpariaeth ar gyfer Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy ac ar gyfer Asesiadau Statudol.

Mae'r penderfyniadau hyn a wneir yn y paneli hyn yn derfynol ac yn seiliedig ar y wybodaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd yn unol â phob proses. Pan ddaw’n angenrheidiol i newid lleoliad addysgol oherwydd anghenion plentyn unigol, ymgynghorir bob amser â’r rhieni, a phlant lle y bo’n briodol, ynghylch y lleoliad newydd. Bydd yr ysgol bresennol yn ceisio barn y plentyn a bydd yn rhan o’r cyngor a gyflwynir gan ysgolion i’r ALl.

Mae’r Ddeddf ADY yn ei gwneud yn ofynnol i ystyried barn dysgwyr bob amser, fel rhan o’r broses gynllunio, ynghyd â barn eu rhieni/gofalwyr. Mae’n hollbwysig bod plant a phobl ifanc yn gweld y broses gynllunio fel rhywbeth sy’n cael ei wneud gyda nhw yn hytrach nag ar eu cyfer.

Mae Torfaen yn dadlau bod cyfranogiad disgyblion yn elfen bwysig o’r broses ADY a dylid annog a chefnogi disgyblion i gyfrannu eu barn pryd bynnag y bo modd, dylid eu hannog i fynychu a chymryd rhan yn y cyfarfod. Mae Torfaen yn cydymffurfio â’r Safonau Cyfranogiad Plant ac yn meddwl ac ymarfer mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth gynllunio.

Darpariaeth Arbenigol Torfaen

Bydd gan nifer fach o blant Anghenion Dysgu Ychwanegol difrifol a chymhleth na ellir eu diwallu’n rhesymol o fewn cyd-destun ysgol brif ffrwd. Mae gan Awdurdod Lleol Torfaen gontinwwm o ddarpariaeth arbenigol sy’n cynnwys Ysgol Arbennig Crownbridge a Chanolfannau Adnoddau Anghenion Arbennig sy’n gysylltiedig ag ysgolion prif ffrwd ar gyfer disgyblion y canfuwyd, yn dilyn asesiad, bod angen lleoliad addysg mwy arbenigol arnynt. Mae gan ein Canolfannau Adnoddau a'n Hysgolion Arbennig gryn dipyn o arbenigedd o weithio gyda disgyblion ag anghenion mwy cymhleth. Mae'r Awdurdod Lleol yn gyfrifol am leoli disgyblion mewn Canolfannau Adnoddau ac Ysgolion Arbennig trwy'r Panel Lleoliadau Arbenigol ADY. Mae ysgolion yn asesu ac yn monitro disgyblion ar eu cofrestrau ADY. Pan fyddant wedi dod i’r casgliad y gallai fod angen cymorth neu ymyriad mwy arbenigol ar ddisgybl na ellir ei ddarparu’n rhesymol gan ei ysgol brif ffrwd, bydd yn cysylltu â Seicolegydd Addysg (SA) ei ysgol i drafod y disgybl. Os cytunir ei fod yn briodol ac os ceir caniatâd gan rieni, bydd y SA yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol i benderfynu a ddylid ystyried lleoliad arbenigol. Os cytunir, rhoddir enw'r disgybl ar y rhestr lleoliadau arbenigol i'w drafod yn y cyfarfod. Ni fydd pob disgybl a roddir ar y rhestr neu a drafodir o ran lleoliad arbenigol, yn cael lleoliad a bydd rhai disgyblion yn gallu aros yn eu hysgol gyda chynlluniau unigol. Lle na ddyfernir lleoliad i ddisgybl mewn darpariaeth arbenigol bydd yr Awdurdod Lleol yn gweithio gydag ysgol brif ffrwd y disgybl i ddarparu cyngor ac arweiniad i barhau i gefnogi’r disgybl yn ei ysgol.

Darpariaeth Arbenigol Torfaen
Enw’r DdarpariaethMathPennaeth/ Pennaeth y GanolfanNatur y DdarpariaethCapasitiYstod OedranAtgyfeiriad-au

Ysgol Arbennig Crownbridge

Turnpike Road, Croesyceiliog,

Cwmbrân. NP44 2BJ
Rhif Ffôn: 01633 624201
www.crownbridgeschool.co.uk

Ysgol Arbennig

Bethan Moore

ADP a’r anghenion cysylltiedig

116

3-19

Torfaen

Ysgol Gynradd Nant Celyn

Henllys Way, Cwmbrân. NP44 7DJ
Rhif Ffôn: - 01633 624170

www.nantcelynprimary.co.uk

Canolfan Adnoddau Cynradd

Gemma Bussy

Nam ar y Clyw

14

5-11

Derbynnir

Atgyfeiriad

-au

rhanbarthol

Ysgol Gynradd Nant Celyn

Henllys Way, Cwmbrân. NP44 7DJ

Rhif Ffôn: 01633 624170
Ffacs: 01633 624169

www.nantcelynprimary.co.uk

Canolfan Adnoddau Cynradd

C UAA

Gemma Bussy

Anhwylder Sbectrwm Awtistig

18

5-11

Torfaen

Ysgol Gynradd Maendy

Wayfield Crescent, Cwmbrân. NP44 1NH

Rhif Ffôn: 01633 483168

www.maendyprimary.co.uk

Canolfan Adnoddau Cynradd

C UAA

Fiona Colcombe

Anghenion dysgu cymhleth ac anghenion cysylltiedig

16

3-7

Torfaen

Ysgol Gynradd Pontnewydd

Bryn Celyn Road, Pontnewydd, Cwmbrân. NP44 1JW

Rhif Ffôn: 01633 483307
www.pontnewyddprimaryschool.co.uk

Canolfan Adnoddau Cynradd

C UAA

Paulette Cox

Anghenion dysgu cymhleth ac anghenion cysylltiedig

32

5-11

Torfaen

Uwchradd

Ysgol Gyfun Abersychan

Incline Road, Abersychan, Pont-y-pŵl. NP4 7DF

Rhif Ffôn /Ffacs: 01495 773068

www.abersychan.org.uk

Canolfan

Adnoddau

Uwchradd

U UAA

Richard Price

Anghenion dysgu cymhleth ac anghenion cysylltiedig

38

11-16

Torfaen

Ysgol Uwchradd Cwmbrân

Ty Gwyn Way, Fairwater, Cwmbrân. NP44 4YZ

Rhif Ffôn: 01633 643950
Ffacs: 01633 643951
www.cwmbranhighschool.co.uk

Canolfan Adnoddau Uwchradd

U UAA

Claire Sims

Nam ar y clyw

24

11-16

Derbynnir

atgyfeiriad

rhanbarthol

Ysgol Uwchradd Cwmbrân

Ty Gwyn Way, Fairwater, Cwmbrân. NP44 4YZ

Rhif Ffôn: 01633 643950
Ffacs: 01633 643951
www.cwmbranhighschool.co.uk

Canolfan Adnoddau Uwchradd

U UAA

Gemma Bussy

Anhwylder Sbectrwm Awtistig

Cyfanswm 16

Torfaen 8

Casnewydd 4

Trefynwy 2

Blaenau

Gwent 2

11-16

Rhanbarthol

Uned Atgyfeirio Disgyblion yr Awdurdod Lleol (Darpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol)

Hyfforddiant

Lle nad yw person ifanc yn gallu mynychu’r ysgol am gyfnod penodol oherwydd rhesymau corfforol a/neu feddygol sylweddol parhaus. Dylai ysgolion, awdurdodau lleol, gweithwyr iechyd proffesiynol ac asiantaethau eraill gydweithio i gefnogi disgybl na all fynychu ei ysgol.

Nod yr hyfforddiant ar gyfer y disgyblion hyn yw cefnogi addysg barhaus y plant a phobl ifanc o oedran ysgol statudol nad ydynt yn gallu cael mynediad i ysgol brif ffrwd oherwydd rhesymau corfforol neu feddygol. Tymor byr yw'r hyfforddiant, a bydd y disgybl yn dychwelyd i'w ysgol brif ffrwd pan fydd yn gallu. Os oes gan ysgolion wybodaeth gan ymgynghorydd sydd wedi asesu na all disgybl fynychu ei ysgol am gyfnod penodol oherwydd ei anghenion meddygol, gall yr ysgol gyflwyno cais am hyfforddiant i banel ADY yr ALl i'w drafod. Bydd angen i ysgolion gwblhau'r rhannau perthnasol o'r ffurflen gais gan atodi adroddiadau meddygol priodol. Gellir atgyfeirio disgyblion ag amrywiaeth o anghenion at UCD.

Gwneir ceisiadau am leoliadau UCD a grwpiau pryder gan ysgolion gyda chynlluniau a thystiolaeth ategol yn unol â phrotocol UCD Torfaen. Trafodir ceisiadau gan banel ADY. Mae’r holl hyfforddiant yn dymor byr ac mae’r disgybl yn parhau ar gofrestr ei ysgol gartref.

Lleoliadau mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion

Mae’r Uned Cyfeirio Disgyblion yn cael ei chynnal gan yr Awdurdod Lleol ac mae’n darparu addysg y tu allan i leoliad ysgol brif ffrwd i ddisgyblion na fyddent efallai’n derbyn addysg addas a phriodol fel arall.

Mae UCD Torfaen yn darparu addysg ar gyfer disgyblion ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol ac ar gyfer y rhai sydd angen addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS). Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys: prif safle, Tŷ Glyn sy'n darparu ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol 3 a 4, a’r Dafarn Newydd, Mae UCD Torfaen yn darparu addysg ar gyfer disgyblion ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol ac ar gyfer y rhai sydd angen addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS). Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys: prif safle, Tŷ Glyn sy'n darparu ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol 3 a 4, a’r Dafarn Newydd, sy'n darparu ar gyfer disgyblion sy'n bryderus, neu'r rhai sy'n gwrthod mynychu’r ysgol.

Maent hefyd yn cynnig lleoliadau tymor byr i ddisgyblion yn un o'r canolfannau. Mae pob disgybl yn aros ar gofrestr yr ysgol tra eu bod yn mynychu’r UCD. Cytunir ar bob lleoliad trwy banel yr awdurdod lleol a chânt eu monitro'n agos. Adolygir cynnydd disgyblion gyda phartneriaid a’r disgyblion eu hunain bob hanner tymor. Mae’r rhain yn mapio cynnydd disgyblion ac yn cynllunio dychwelyd i’w hysgol neu’n ystyried yr opsiynau gorau ar gyfer y dyfodol i’r person ifanc.

Mae’r UCD yn gweithio’n agos ac mewn partneriaeth â holl ysgolion cynradd ac uwchradd Torfaen. Pan fo’n briodol i anghenion y dysgwr, gall gynnig darpariaeth pum diwrnod (25 awr) a’i nod yw darparu cwricwlwm cytbwys. Mae rhaglenni unigol disgyblion yn canolbwyntio ar hybu dealltwriaeth bersonol a datblygu medrau rheoli ymddygiad. Mae pob disgybl yn astudio Mathemateg, Saesneg, Gwyddoniaeth, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh), Celf, Daearyddiaeth, Hanes, Addysg Gorfforol, ABCh a thechnoleg bwyd.

Gwneir ceisiadau am leoliadau UCD a grwpiau pryder gan ysgolion gyda chynlluniau a thystiolaeth ategol yn unol â phrotocol UCD Torfaen.Trafodir ceisiadau gan banel ADY a chânt eu hadolygu’n rheolaidd.

Neil Payne (Dros dro)
Ffôn: 01495 742 859 (Safle Tŷ Glyn)
Ffôn: 01495 742 882 (Safle’r Dafarn Newydd)

Lleoliadau mewn Ysgolion y Tu Allan i’r Sir

Bydd anghenion dysgu ychwanegol mwyafrif y disgyblion yn cael eu diwallu mewn ysgolion neu ddarpariaethau yn Nhorfaen. Mewn nifer fach iawn o achosion, bydd plant wedi cael eu hasesu’n rhan o’r asesiad statudol/proses CDU fel rhai sydd ag anghenion difrifol a chymhleth nad oes gan Dorfaen ddarpariaeth yn y sir i ddarparu ar gyfer eu hanghenion unigol. Yn yr achosion hyn, ceisir lleoliad arbenigol y tu allan i'r awdurdod gan ddefnyddio proses gomisiynu'r Awdurdod Lleol. Byddwn yn ceisio comisiynu lleoliad dydd mewn ysgol arbennig annibynnol neu nas cynhelir sydd o fewn pellter teithio rhesymol i gartref y disgybl. Byddwn hefyd yn gweithio ar y cyd â Gofal Cymdeithasol a/neu Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan i gael lleoliad i ddisgyblion ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth a allai fod angen lleoliad gofal preswyl ar y cyd â’r cynllun gofal.

Byddwn yn parhau i adolygu cynnydd y disgyblion hyn yn rheolaidd a monitro eu darpariaeth i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn briodol i ddiwallu eu hanghenion addysgol fel rhan o broses sicrhau ansawdd yr Awdurdod Lleol.

Trafnidiaeth i ddisgyblion sy’n mynychu Darpariaeth Arbenigol

Mae mwyafrif y disgyblion ag ADY yn mynychu’r ysgol brif ffrwd a gynhelir sydd yn addas, a’r agosaf atynt. Mae Polisi Cludiant Torfaen ar gyfer myfyrwyr ag ADY yr un fath ag ar gyfer pob disgybl, a darperir cludiant ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n byw dros y pellter cerdded statudol o'r ysgol brif ffrwd addas agosaf yn unig. Y pellter yw 2 filltir i ddisgybl oed cynradd a 3 milltir i ddisgybl oed uwchradd. Lle mae rhiant wedi dewis ysgol, nad yw'n ysgol a gynhelir sydd yn addas a’r agosaf atynt, y nhw fydd yn gyfrifol am y cludiant i'r ysgol.

Lle mae Gwasanaeth Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion Torfaen wedi dyfarnu lleoliad mewn darpariaeth arbenigol, bydd yr adran drafnidiaeth yn cael gwybod am y lleoliad a bydd cludiant yn cael ei roi ar waith lle mae’r disgybl yn byw fel arfer yn Nhorfaen ac sydd wedi derbyn lleoliad gan banel lleoliad arbenigol yr Awdurdod Lleol mewn:

  • Canolfan Adnoddau Anghenion Arbennig yr Awdurdod Lleol (Oni bai bod y disgybl yn byw o fewn y pellter cerdded statudol o’r ysgol, lle cawsant leoliad)
  • Ysgol Arbennig Crownbridge
  • Uned Cyfeirio Disgyblion neu Ganolfan Asesu Pont Fach
  • Ysgol Arbennig Annibynnol a enwir yn y Datganiad AAA /CDU.

Bydd y Gwasanaeth ADY a Chynhwysiad yn ymwneud â chludiant ar gyfer disgyblion sy'n mynychu darpariaethau arbenigol yn unig. Bydd pob ymholiad arall sy’n ymwneud â chludiant yn mynd trwy'r brif adran drafnidiaeth. (Gweler y brif adran trafnidiaeth).

Mae gan Dorfaen ystod o Ganolfannau Adnoddau Arbennig ac Ysgolion Arbennig ar gyfer disgyblion y canfuwyd yn dilyn asesiad bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol difrifol a chymhleth. Gweithiwn ar y cyd â’r darpariaethau i’w datblygu fel canolfannau cyngor ac arbenigedd. Mae hyn yn rhan annatod o ddatblygu ymateb graddedig i ddiwallu anghenion disgyblion. Mae ein hysgolion arbennig a darpariaethau yn gweithio gyda’r brif ffrwd i ddatblygu darpariaeth a rhannu arfer dda o fewn ysgolion yn Nhorfaen.

Mae’r Awdurdod Lleol yn gyfrifol am dderbyn disgyblion i’w ganolfannau adnoddau a’i ysgolion arbennig drwy’r Panel Lleoliadau Arbenigol ar gyfer ADY. Mae ysgolion yn asesu ac yn monitro disgyblion ar eu cofrestrau ADY. Pan fyddant wedi dod i’r casgliad y gallai fod angen cymorth neu ymyriad mwy arbenigol ar ddisgybl na all ei ysgol brif ffrwd ei ddarparu’n rhesymol, byddant yn cysylltu â Seicolegydd Addysg eu hysgol i drafod y disgybl. Os cytunir ei fod yn briodol ac os rhoddir caniatâd gan y rhieni, bydd y SA yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol i benderfynu a ddylid ystyried lleoliad arbenigol. Os cytunir ar hyn rhoddir enw'r disgybl ar y rhestr lleoliadau arbenigol. Mae’r panel yn cyfarfod bob tymor i drafod y disgyblion.

Diwygiwyd Diwethaf: 09/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Cynhwysiant

Ffôn: 01495 766929 neu 01495 766968

Nôl i’r Brig