Sut gall yr ysgol helpu fy mhlentyn?

Fel rhiant chi fydd yn adnabod eich plentyn orau. Os oes gennych unrhyw bryderon am ddysg neu ymddygiad eich plentyn dylech drafod pethau yn y lle cyntaf gydag athro dosbarth eich plentyn, y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, y Pennaeth neu ddarparwr y Blynyddoedd Cynnar. Mae'n bwysig iawn eich bod yn trafod eich pryderon gyda'r ysgol/darparwr addysg fel cam cyntaf. Bydd cryn dipyn o blant yn cael trafferth gyda'u dysgu a'u hymddygiad ar ryw adeg yn ystod eu bywyd ysgol.

Mae ALl Torfaen yn credu mai’r ffordd orau i helpu’ch plentyn yw i bawb weithio gyda’i gilydd gan ddefnyddio dull sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn. Mae’r dull hwn yn rhoi’r disgybl wrth galon y cynllunio ac yn sicrhau bod yr holl asiantaethau perthnasol yn cydweithio i gynllunio ar gyfer y dysgwr. Mae'r ALl yn credu y dylai plant a phobl ifanc deimlo'n hyderus bod eu barn yn cael ei glywed a’i werthfawrogi. Lle bo modd, bydd plant a phobl ifanc yn cael eu hannog i gymryd rhan yn yr holl brosesau penderfynu sy'n digwydd ym myd addysg.

Mae mwyafrif y dysgwyr yn cael eu haddysgu mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar/ysgolion a cholegau prif ffrwd trwy ddarpariaeth a gwasanaethau cyffredinol. Mae gan bob ysgol neu leoliad fap darpariaeth sy'n nodi eu hymateb graddedig i ddiwallu anghenion disgyblion gyda'r cymorth a'r ymyriadau y maent wedi'u datblygu mewn ysgol/lleoliad i ddiwallu anghenion y myfyrwyr ar eu cofrestr. Gall fod gan ddisgyblion Broffil Un Dudalen gyda thargedau i fonitro eu cynnydd gyda'r cymorth a'r ymyriadau y maen nhw’n eu derbyn. Mae gan bob ysgol brif ffrwd a gynhelir yn Nhorfaen gyllideb ADY pwrpasol i gynllunio cymorth a darpariaeth ar gyfer disgyblion sy'n mynychu eu hysgol.

Bydd rhai disgyblion yn cael eu nodi gan eu hysgol fel rhai sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ac efallai y bydd angen cynllunio mwy unigol ar y disgybl gydag ymyriadau wedi’u targedu, a darpariaeth ddysgu ychwanegol a ddarperir gan eu hysgol trwy Gynllun Datblygu Unigol (CDU). Os felly, bydd yr ysgol yn trafod y cynllun gyda chi, a byddwch yn cael eich gwahodd i gyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gyda'r gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â chefnogi'ch plentyn i lunio cynllun. Efallai y bydd ysgol eich plentyn hefyd am drafod cael cymorth gan un o’n gwasanaethau canolog fel Seicoleg Addysgol neu Allgymorth a all roi cyngor ac arweiniad i gynorthwyo gyda’r cynllunio ar gyfer disgybl yn ei ysgol

CADY

Mae CADY yn dalfyriad o ‘Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol’

Mae CADY ymhob ysgol. Mewn ysgol fach efallai mai’r Pennaeth neu’r Dirprwy fydd yn cyflawni’r rôl. Mewn ysgolion mwy efallai y bydd tîm ADY.

Y CADY sy’n cydlynu’r cymorth Dysgu Ychwanegol yn yr ysgol a byddant yn cadw cofnod o’r plant sydd ag ADY ac yn monitro’u cynnydd. Byddant yn eich cynghori ynghylch sut bydd yr ysgol yn diwallu anghenion eich plentyn.

Mae gan bob ysgol gyllid ADY pwrpasol ac mae pob un wedi datblygu map darpariaeth sy’n nodi’r ymyriadau a’r cymorth y maen nhw’n eu rhoi ar lefelau cyffredinol, wedi’u targedu a phenodol.

Bydd y CADY hefyd yn gyfrifol am weithredu a gweithrediad polisi ADY yr ysgol sydd ar gael i’w weld yn yr ysgol pe dymunwch.

Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd adnabyddiaeth amserol a rhoi darpariaeth briodol ar waith cyn gynted â phosibl ar gyfer dysgwr ag ADY. Po gynharaf y cymerir camau, y mwyaf effeithiol y byddant yn debygol o fod.

Gweithwyr Proffesiynol ac Asiantaethau sy’n darparu cymorth i Ddysgwyr

Mae gweithwyr proffesiynol amrywiol yn cyfarfod yn rheolaidd â'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol. Byddant yn gweithio'n agos gyda staff yr ysgol i roi cyngor ar sut i weithio gyda disgyblion unigol; gallant ddarparu asesiadau arbenigol ychwanegol, neu efallai y byddant yn gweithio'n uniongyrchol gyda'r plentyn. Byddant hefyd yn awgrymu targedau newydd ar gyfer y plentyn neu berson ifanc.

Diwygiwyd Diwethaf: 10/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Cynhwysiant

Ffôn: 01495 766929 neu 01495 766968

Nôl i’r Brig