Datrys Anghydfodau
Gellir cysylltu â’r Awdurdod Lleol ar unrhyw adeg yn y broses ADY i drafod unrhyw faterion neu bryderon sydd gennych ynglŷn â’r broses CDU neu bryderon sydd gennych ynglŷn â phenderfyniad yr ALl ynghylch addysg eich plentyn. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fyddwch yn anghytuno â'r penderfyniad a wnaed. Mae’n bwysig bod eich pryderon yn cael eu codi fel y gellir cynnal trafodaethau cynnar, neu drefnu cyfarfod. Yn y lle cyntaf, cysylltwch â'ch swyddog a enwir a fydd yn hapus i'ch helpu (a enwir ar y llythyrau a gawsoch gennym).
Lle ceir anghytundebau, byddwn yn ceisio gweithio gyda chi i geisio datrys y mater. Fodd bynnag, lle na ellir datrys materion, ac os yw’r mater yn rhan o apêl ffurfiol TAAAC efallai y bydd angen Ateb mwy ffurfiol i’r Anghytundeb a chyflafareddu mwy ffurfiol.
Mae’n ofynnol hefyd i awdurdodau lleol gael gwasanaeth eirioli annibynnol i roi cefnogaeth i rieni a phlant a phobl ifanc o ran y system ADY. Mae gan Dorfaen gytundeb lefel gwasanaeth gyda SNAP Cymru. Maent yn darparu gwybodaeth a chyngor annibynnol am ddim i rieni plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae SNAP Cymru yn hyrwyddo gwaith partneriaeth effeithiol ac yn cydnabod pwysigrwydd cynnwys rhieni a phobl ifanc mewn penderfyniadau am ddarpariaeth dysgu ychwanegol. Mae'r gwasanaeth yn darparu cyfleoedd i drafod unrhyw bryderon sydd gennych ac i'ch helpu i baratoi ar gyfer trafodaethau yn ogystal â mynychu cyfarfodydd, ac ymweld ag ysgolion gyda chi os dymunwch. Mae gan Dorfaen gytundeb lefel gwasanaeth gyda SNAP i ddarparu’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim i deuluoedd.
Diwygiwyd Diwethaf: 08/02/2022
Nôl i’r Brig