Y Cynllun Datblygu Unigol (CDU)

Yn y Ddeddf ADY a’r Tribiwnlys Addysg mae’r CDU yn disodli’r prosesau cynllunio a statudol presennol ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Ychwanegol, gan gynnwys y ‘Datganiad AAA’, a bydd yn arwain at ddull gweithredu mwy llyfn a hyblyg sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gan ddilyn ymlaen o'r prosesau a amlinellwyd uchod

Bydd y CDU yn fuddiol i blant a phobl ifanc ag Anghenion Ychwanegol (AY) rhwng 0-25 oed, trwy:

  • creu system gynhwysol, gyfannol, gwella cyfranogiad y plentyn/person ifanc mewn prosesau asesu a chynllunio unigol, ac o ganlyniad gwella canlyniadau dysgu a lles plant/pobl ifanc ag AY yng Nghymru.
  • gwella gwaith partneriaeth gyda rhieni a gofalwyr plant/pobl ifanc ag AY, cynyddu ffydd a hyder yn y broses, a hyrwyddo mwy o gysondeb o ran canlyniadau ac ansawdd rhwng ysgolion, Awdurdodau Lleol (ALl) a Byrddau Iechyd
  • gwella trefniadau partneriaeth rhwng asiantaethau a sefydliadau’r ‘trydydd sector’, a thrwy greu mwy o effeithlonrwydd o ran defnyddio adnoddau.

Beth sydd mewn CDU?

Mae CDU yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol, fel gwybodaeth fywgraffyddol am y plentyn neu berson ifanc, manylion cyswllt a gwybodaeth am y rhai sy’n gweithio gyda nhw a chyfraniadau gan blant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol a hynny’n seiliedig ar bedair prif agwedd h.y.:

  • ‘yr hyn sy’n bwysig’ i’r plentyn/person ifanc
  • ‘yr hyn sy’n bwysig ar gyfer’/ ‘y ffordd orau i gefnogi’r plentyn/person ifanc yn awr ac yn y dyfodol
  • ‘yr hyn sy’n gweithio’
  • ‘y pethau nad ydynt yn gweithio’?
  • Cynllun gweithredu, yn amlinellu sut y bydd anghenion y plentyn/person ifanc yn cael eu diwallu, gan bwy a sut y bydd y cynllun hwn yn cael ei adolygu yn y dyfodol.

Sut olwg sydd ar broses gynllunio lwyddiannus?

Mae CDU effeithiol yn seiliedig ar y plentyn ac mae’n:

  • ymatebol a hyblyg.
  • mynnu newidiadau o ran arfer ac ymagwedd broffesiynol.
  • hwyluso gweithwyr proffesiynol i gydweithio, cyfathrebu’n fwy effeithiol, a’u hannog i gyfrannu at y prosesau asesu a chynllunio.
  • annog y plentyn/person ifanc, ei rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i feithrin fwy o ‘berchnogaeth’ ar y CDU.
  • sicrhau bod y plentyn/person ifanc, ei rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol yn cymryd rhan yn y broses.
  •  Mae pawb sydd dan sylw yn cael mewnbwn gwerthfawr ac yn cael ei werthfawrogi’n gyfartal.

Mae pob CDU yn cynnwys cynllun gweithredu, sy’n cael ei adolygu’n rheolaidd gan bawb sy’n cyfrannu ato, ochr yn ochr â system sicrwydd ansawdd gadarn sy’n cynnwys monitro a gwerthuso’r:

  • ddarpariaeth ar gyfer anghenion ychwanegol
  • canlyniadau i blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  • profiadau plant a phobl ifanc, eu rhieni a gofalwyr a’r rheini sy’n gweithio gyda nhw

Mae datblygiad y CDU yn cynnwys y plentyn/person ifanc, ei rieni/gofalwyr, a’r holl weithwyr proffesiynol dan sylw, mewn proses gydweithredol. Yn y mwyafrif helaeth o achosion dylai’r canlyniad fod yn gonsensws ar sut i ddiwallu anghenion y plentyn/person ifanc dan sylw.

Diwygiwyd Diwethaf: 08/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Inclusion Service

Tel: 01495 766929 or 01495 766968

Nôl i’r Brig