Cynllunio Sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn (CCU)

Mae CCU yn gasgliad o offer a dulliau gweithredu, yn seiliedig ar gyfres o werthoedd a rennir, y gellir eu defnyddio i gynllunio'n effeithiol gyda phlentyn/person ifanc, yn hytrach nag ar eu cyfer. Mae offer CCU yn helpu’r plentyn/person ifanc i ystyried yr hyn sy’n bwysig iddo ar hyn o bryd, ei annog i feddwl am yr hyn a fyddai’n gyfystyr â dyfodol llwyddiannus, ac i nodi’n weithredol y cymorth sydd ei angen arno i gyflawni’r dyfodol hwn. Mae dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn helpu i ddatblygu cylch cymorth y plentyn/person ifanc drwy gynnwys yr holl bobl sy’n bwysig ym mywyd y plentyn/person ifanc hwnnw, gan gynnwys rhieni/gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw.

Nid oes un dull unigol o weithio; mae'n fwy o ddulliau ac arddulliau cyfunol, sy'n ei gwneud yn anos i'w ddiffinio. Mae mabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ffordd o roi llais a chaniatáu i’r plentyn neu’r person ifanc sydd wrth galon y cynllun ddweud ei ddweud yn yr hyn sy’n digwydd iddo. Mae gan weithwyr proffesiynol unigol arbenigedd a gwybodaeth ac maent yn gwybod beth sy’n ‘bwysig’ i blentyn ond mae angen i gynllun llwyddiannus ddangos cydbwysedd i adlewyrchu’r hyn sy’n ‘bwysig’ i’r plentyn hefyd.

Mae pum egwyddor allweddol i Gynllunio Sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn:

  1. Yr unigolyn sydd wrth wraidd y cynllun
  2. Mae aelodau’r teulu a ffrindiau yn bartneriaid yn y cynllunio
  3. Mae’r cynllun yn adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i’r unigolyn nawr (ac yn y dyfodol), ei g/allu a pha gymorth sydd ei angen arno/arni
  4. Mae’r cynllun yn helpu i adeiladu lle’r person yn y gymuned ac yn helpu’r gymuned i’w groesawu. Nid yw’n ymwneud â gwasanaethau yn unig, ac mae’n adlewyrchu’r hyn sy’n bosibl, nid yn unig yr hyn sydd ar gael
  5. Mae’r cynllun yn arwain at wrando, dysgu a chamau pellach, parhaus.

Beth yw Proffil Un Dudalen?

Mae Proffil Un Dudalen yn cynnwys yr holl wybodaeth bwysig am unigolyn, a hynny ar un darn o bapur, dan dri phennawd syml: yr hyn y mae pobl yn ei hoffi ac yn edmygu amdanaf, yr hyn sy’n bwysig i mi a’r ffordd orau i fy nghefnogi. 

Sut gallant ein helpu i gefnogi pobl yn well?

Mae Proffiliau Un Dudalen yn hawdd i’w datblygu ac maent yn ein helpu i gefnogi pobl yn well drwy:

  • Ein helpu ni i feithrin perthnasoedd gwell trwy ddeall yn iawn beth sy'n wirioneddol bwysig i'r person yn ei fywyd a'r ffordd y mae'n cael ei gefnogi i'w fyw
  • Darparu cofnod a all symud gyda'r person wrth iddo drosglwyddo o wasanaeth i wasanaeth neu ddefnyddio mwy o wasanaethau
  • Cael eu diweddaru'n rheolaidd i adlewyrchu amgylchiadau a dyheadau pobl, sy’n newid
  • Pan fydd gan staff Broffiliau Un Dudalen, mae’r bobl sy’n derbyn cefnogaeth yn teimlo eu bod yn dod i adnabod yr unigolyn, yn hytrach na theitl y swydd yn unig
  • Pan fyddant yn cael eu defnyddio yn y gwaith, gallant gyfrannu at dimau sy'n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn, lle mae cryfderau unigol yn cael eu cydnabod, a ffyrdd gwahanol o weithio yn cael eu hystyried.

Beth yw Adolygiad Sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn? 

Mae Adolygiad sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yn defnyddio offer meddwl sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i archwilio beth sy’n digwydd o safbwynt yr unigolyn ac o safbwyntiau pobl eraill. Mae hyn yn arwain at ganlyniadau a chamau gweithredu ar gyfer newid sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac yn sicrhau bod amrywiaeth o bobl yn cael eu cynnwys pan fydd yr adolygiad yn digwydd, a bod eu safbwyntiau a’u syniadau’n cael eu cofnodi mewn ffordd strwythuredig, cam wrth gam drwy:

  • Gwneud yn siŵr ein bod yn ystyried profiadau’r unigolyn, ei deulu a’r rhai sy’n eu cefnogi o ddifri wrth adolygu pa mor dda y mae pethau’n mynd
  • Creu amgylchedd lle anogir pobl i deimlo’n gyffyrddus i fynegi’u hunain yn onest
  • Datblygu camau sy’n seiliedig ar brofiadau a dysgu, sy’n arwain at amgylchedd lle’r ydym yn gwella’n cefnogaeth yn gyson.
Diwygiwyd Diwethaf: 09/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Cynhwysiant

Ffôn: 01495 766929 neu 01495 766968

Nôl i’r Brig