Rhaglen buddsoddi mewn ysgolion
Dros y blynyddoedd nesaf, ac yn amodol ar gyllid gan raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, mae'r cyngor yn bwriadu buddsoddi yn yr ysgolion canlynol:
- Ysgol Bryn Onnen
- Ysgol Gymraeg Cwmbrân
- Ysgol Gorllewin Mynwy
- Ysgol Abersychan
- Ysgol Uwchradd Cwmbrân
- Ysgol Gynradd Llanyrafon
- Ysgol Gynradd Pontnewydd
- Ysgol Gynradd Coed Eva
- Ysgol Gynradd Croesyceiliog
Mae cynlluniau hefyd i gynyddu lleoedd addysg cyfrwng Cymraeg a lleoedd o fewn yr Uned Cyfeirio Disgyblion, a gweithio gyda'r Archesgobaeth Gatholig ar gynlluniau ar gyfer ysgolion Catholig yn y fwrdeistref.
Mae'n dilyn buddsoddiad gwerth £120m mewn ysgolion yn y fwrdeistref ers 2014, diolch i hen raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a'r fenter newydd, Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Rhwng 2014-2019, buddsoddwyd £91m mewn:
- Tair ysgol gynradd newydd - Llantarnam, Blenheim ac Ysgol Panteg
- Ysgol uwchradd newydd yng Nghroesyceiliog
- Ymestyn ac adnewyddu pedair ysgol gynradd - Garnteg, Cwmffrwdoer, Pen-y-garn, cyfnod cynradd newydd yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw
- Gwelliannau i Ysgol Uwchradd Cwmbrân
- Parth Dysgu newydd yn Nhorfaen
Caewyd deg safle ysgol hefyd i gael gwared ar leoedd dros ben.
Rhwng Ebrill 2019 a 2025, buddsoddwyd bron i £30m mewn meithrinfa newydd yn Ysgol Gynradd Maendy a chanolfan adnoddau ac asesu Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghwmbrân. Cafodd ysgol Crownbridge hefyd ei hymestyn i gynnig 50 o leoedd ychwanegol.
Mae'r gwaith yn rhan o amcan y cyngor i godi cyrhaeddiad addysgol i helpu pobl ifanc ac oedolion i ennill y cymwysterau a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau cadarnhaol.
Mae hefyd yn cyfrannu at ein hymrwymiad fel Cyngor Marmot i fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar.
Dysgwch fwy am gynlluniau buddsoddi ysgolion ar gyfer y flwyddyn i ddod yng Nghynllun Cyflawni blynyddol ein Cynllun Sirol.
Ymgynghoriad Canolfan Adnoddau Dysgu Cyfrwng Cymraeg
Trafodwyd yr adroddiad ymgynghori arddarpariaeth newydd anghenion dysguychwanegol cyfrwng Cymraeg yn y Cabinet ar 2 Mehefin a chytunwyd i symud ymlaen i'r cam nesaf, sef cyhoeddi'r hysbysiad statudol. Foddbynnag, gellir herio’r penderfyniad hwnnw ynunol â chyfansoddiad y Cyngor.
Os bydd penderfyniad i fwrw ymlaen â'r hysbysiad statudol yn parhau, byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gyfrannu at y broses statudol hon cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud.
Os byddai'n well gennych gopi papur, cysylltwch â kath.worwood@torfaen.gov.uk
Diweddariad: 18 Mehefin 2026 Cynnig i greu Canolfan Adnoddau Dysgu Cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, Trefddyn, Pont-y-pŵl – Cyhoeddi Hysbysiad Statudol
Yn eu cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mawrth 2 Mehefin 2026, penderfynodd y Cabinet fwrw ymlaen â'r cynnig canlynol o ran Ad-drefnu’r Ysgol:
- cyhoeddi hysbysiadau statudol i greu Canolfan Adnoddau Dysgu Cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, Trefddyn, Pont-y-pŵl
Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, roedd y penderfyniad uchod yn destun proses herio. Sylwer na chafodd y penderfyniad hwn ei herio.
Rhaid i'r Cyngor nawr gyhoeddi'r cynnig hwn ar ffurf hysbysiad statudol.
Gall unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu’r cynigion hyn wneud hynny. Er mwyn cael ei ystyried yn wrthwynebiad statudol, rhaid cyflwyno gwrthwynebiadau yn ysgrifenedig neu mewn e-bost fel yr eglurir yn yr hysbysiad statudol, a'u hanfon at y Cyngor o fewn 28 diwrnod o'r dyddiad y cafodd y cynnig ei gyhoeddi (16 Gorffennaf 2026). Cyfeirir at hyn fel y cyfnod gwrthwynebu.
Diwygiwyd Diwethaf: 18/06/2026
Nôl i’r Brig