Ysgol Gynradd Gymraeg Newydd - Ysgol Gymraeg Gwynllyw

Artists Impression of Ysgol Gwynllyw

Fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, dyrannwyd cyllid o £8.1m i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i ymestyn yr ystod oedran ar safle Ysgol Gyfun Gwynllyw, felly’n ei chynyddu o ysgol 11-18 oed i 3-18 oed. Cyflawnwyd hyn drwy ddarparu adran gynradd â lle i 210 (a dosbarth meithrin) a gafodd ei hagor ym mis Medi 2022. Gelwir yr ysgol yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw erbyn hyn.

Mae’r ysgol newydd yn cynnwys adeilad deulawr wedi'i leoli ar draws safle ar wahanol lefelau, sy’n creu llawr cyntaf mwy o faint o gymharu â'r llawr gwaelod. Mae’r ystafelloedd dosbarth ar gyfer yr holl grwpiau blwyddyn wedi'u clystyru i'r de o'r adeilad, felly'n darparu mynediad uniongyrchol i fannau chwarae allanol ar y llawr gwaelod, a golygfeydd di-baid dros y dirwedd bell o'r llawr cyntaf.

Adeiladwyd craidd yr adeilad newydd (neuadd, cyfleusterau bwyta, chwarae awyr agored ac ati)  i fanyleb sy'n caniatáu 315 o leoedd fydd yn golygu y gellir adeiladu dosbarthiadau ychwanegol yn y dyfodol pe bai angen. Mae cynlluniau cyffredinol yr ystafelloedd dosbarth yn yr ysgol yn adlewyrchu’r hyn sydd yn nyluniad ysgolion cynradd ar hyn o bryd, gyda ‘stryd’ fewnol rhwng dosbarthiadau dau grŵp oedran tebyg. Mae’r fath fan agored yn cynnig cyfle i ddefnyddio’r ardal fel man chwarae yn ogystal â lle i ddysgu ac addysgu.

Mae’r cynllun tirlunio allanol yn cynnig ardaloedd amrywiol i ddisgyblion chwarae. Mae hyn yn cynnwys chwarae caled anffurfiol ag offer chwarae pren a glannau glaswelltog meddal ar gyfer chwarae naturiol. Maeardal gemau aml-ddefnydd allanol (MUGA) wedi cael ei chreu ar gyfer chwaraeon safonol. Mae ardal cynefin dysgu hefyd wedi cael ei hymgorffori yn y dirwedd, gyda’r bwriad o addysgu disgyblion am eu hamgylchedd naturiol a bydd yn adnodd gwerthfawr ar gyfer addysgu a dysgu ar draws y cwricwlwm cyfan.

Mae’r ysgol wedi agor fel egin-gyfleuster sy’n cynnig dosbarth Meithrin a Derbyn yn y flwyddyn gyntaf a bydd y niferoedd derbyn yn cynyddu i gynnwys grwpiau eraill flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Yn ogystal â’r ysgol newydd, derbyniodd CBST gyllid gwerth £715,000 ar gyfer cyfleuster gofal plant sydd ynghlwm wrth yr Adeilad Cynradd ar y llawr cyntaf. Mae’r cyfleuster yn cynnig gofal plant i hyd at 40 o blant 0-12 oed ac mae’n cynnwys 3 ystafell feithrin/gofal plant ynghyd â’r gwasanaethau cysylltiedig, a mannau ategol.

Diwygiwyd Diwethaf: 25/04/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Blaengynllunio
Ffôn: 01495 766910
E-bost: 21stcenturylearning@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig