Awdurdodiad Hypnotiaeth - Gwneud Cais am Drwydded

Awdurdodiad Hypnotiaeth
Crynodeb o'r Drwydded

Os ydych yn dymuno dangos, arddangos neu berfformio gweithred hypnotiaeth yn gyhoeddus, rhaid bod gennych awdurdodiad gan yr awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr.

 

Os ydych yn perfformio yn yr Alban, rhaid bod gennych ganiatâd, neu rhaid bod trwydded safle neu drwydded adloniant arall gan y safle.

 

Cewch ganiatâd yn yr Alban gan yr awdurdod sy'n cyflwyno'r trwyddedau safle. 

 

Mae'n rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth awdurdodiad.

Meini Prawf Cymhwysedd

Mae'n bosibl y bydd angen talu ffi os gwnewch gais i Gyngor Bwrdeistref yn Llundain.

Crynodeb o'r Rheoliad

Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon

 

Cylchlythyr Rhif 39/1996 y Swyddfa Gartref

Proses Gwerthuso Cais

Nid oes darpariaethau mewn deddfwriaeth.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Ydy. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Gwneud cais ar-lein

Gwneud cais am drwydded hypnotiaeth

Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus

Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded

Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

Camau Unioni Eraill

E.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall.

Cymdeithasau Masnach

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 07/03/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Trwyddedu

Ffôn: 01633 647285

E-bost: licensing@torfaen.gov.uk 

Nôl i’r Brig