Sefydliadau Marchogaeth

Mae'r gyfraith yn mynnu bod angen trwydded ar unrhyw un sy'n rhedeg sefydliad marchogaeth. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y Ddeddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 and Deddf Sefydliadau Marchogaeth 1970.

Mae hyn yn golygu bod yn RHAID i unrhyw un sy'n bwriadu rhoi ceffylau ar fenthyg neu redeg ysgol farchogaeth gael trwydded gan yr awdurdod lleol cyn dechrau eu busnes.

Mae'r trwyddedau hyn yn helpu i sicrhau bod yr anifeiliaid yn cael gofal priodol, trwy osod safonau ar gyfer y safle a lefel y gofal a roddir. Rydym yn arolygu'r safleoedd hyn yn rheolaidd gyda milfeddyg er mwyn sicrhau bod safonau lles anifeiliaid yn cael eu bodloni. 

Er bod trwyddedu wedi'i gynllunio'n bennaf i ddiogelu lles ceffylau, byddwn yn cynnal gwiriadau iechyd a diogelwch hefyd er mwyn helpu i sicrhau diogelwch marchogwyr. 

Os hoffech sefydlu sefydliad marchogaeth, gweler y ffurflenni cais ac Thelerau Trwyddedu. Mae Gwybodaeth am ein ffioedd hefyd ar gael.

Os ydych chi'n dymuno hurio ceffyl neu gael gwersi marchogaeth, dylech wneud yn siwr bod trwydded yr awdurdod lleol yn cael ei harddangos gan y safle rydych chi'n ei ddefnyddio, neu gallwch gysylltu â ni i gael manylion safleoedd trwyddedig yn ardal Torfaen. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch lles anifeiliaid neu ddiogelwch marchogwyr ar unrhyw safle trwyddedig, neu os ydych yn pryderu efallai bod safle'n rhoi ceffylau ar fenthyg heb drwydded, cysylltwch â ni fel y gallwn ymchwilio a gweithredu fel bo'r angen. Hefyd, gallwn fwrw golwg ar y safonau gofal ar gyfer ceffylau yn gyffredinol, gan ddefnyddio ein pwerau o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.

Diwygiwyd Diwethaf: 19/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Commercial Services

Ffôn: 01633 647286

Ebost: commercial.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig