Trwydded Sefydliad Marchogaeth - Gwneud Cais am Drwydded

Trwydded Sefydliad Marchogaeth
Crynodeb o'r Drwydded

I redeg sefydliad marchogaeth (lle mae ceffylau neu ferlod yn cael eu rhoi ar fenthyg ar gyfer marchogaeth neu eu defnyddio i ddysgu marchogaeth), mae angen trwydded arnoch gan yr awdurdod lleol.

 

Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw delerau ac amodau sydd ynghlwm wrth drwydded.

Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y gyfraith

Deddf Sefydliadau Marchogaeth 1964

 

Deddf Sefydliadau Marchogaeth 1970

Sut i ymgeisio

Os hoffech wneud cais i drwyddedu sefydliad marchogaeth ceffyl neu i newid manylion cofrestriad cyfredol, lawrlwytho copi o'r cais am drwydded sefydliad marchogaeth yma.

 

Mae copi o'r amodau trwyddedu safonol ar gael o'r fan hon. Sylwch, mae'r rhain yn gallu newid yn ôl amgylchiadau unigol pob cais.

 

Nodiadau i ymgeiswyr

 

Mae'n rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed. Yng Nghymru a Lloegr, mae'n rhaid iddynt fod heb eu gwahardd rhag cyflawni'r canlynol:

 

  • cadw sefydliad marchogaeth
  • cadw siop anifeiliaid anwes o dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951
  • bod â chystodaeth anifeiliaid o dan Ddeddf Gwarchod Anifeiliaid (Diwygio) 1954
  • cadw sefydliadau lletya ar gyfer anifeiliaid o dan Ddeddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963
  • o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, cadw neu fod yn berchen ar anifeiliaid, gallu dylanwadu ar sut caiff anifeiliaid eu cadw, masnachu anifeiliaid neu gludo neu ymwneud â chludo anifeiliaid
  • bod yn berchen ar anifeiliaid, eu cadw, eu masnachu neu eu cludo o dan Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid (yr Alban) 2006
Ffïoedd ymgeisio

Lawrlwythwch gopi o'r ffïoedd ymgeisio

Y broses ymgeisio

Pan ddaw cais i law, byddwn yn trefnu arolygiad gan y swyddog trwyddedu a milfeddyg arbenigol.

 

Cyn gwneud penderfyniad ynghylch cais, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried adroddiad gan y milfeddyg sy'n nodi pa un a yw'r safle'n addas ar gyfer sefydliad marchogaeth yn ogystal â manylion am gyflwr y safle ac unrhyw geffylau. Hefyd, bydd yr awdurdod lleol yn gwneud yn siwr:

 

  • bod ymgeisydd yn addas ac yn gymwys i ddal trwydded
  • bod y ceffylau mewn cyflwr da ac y byddant yn cael eu cadw'n iach, yn heini'n gorfforol ac yn addas i'w marchogaeth ac ati
  • y bydd carnau'r anifeiliaid eu cael eu torri'n briodol a bod pedolau'n cael eu gosod yn gywir a'u bod mewn cyflwr da 
  • y bydd llety addas yn cael ei ddarparu i'r ceffylau
  • bod digon o dir pori, cysgod a dŵr ar gael i geffylau sy'n cael eu cadw ar borfa, ac y caiff porthiant ychwanegol ei ddarparu fel bo'r angen
  • y bydd bwyd, diod a deunydd gwely addas yn cael eu darparu i'r ceffylau, y byddant yn cael eu gwastrodi, eu hymarfer a'u gorffwys, ac y bydd rhywun yn cadw golwg arnynt yn rheolaidd
  • y bydd rhagofalon yn cael eu cymryd i leihau lledaeniad clefydau cyffwrdd-ymledol neu heintus ac y bydd meddyginiaeth a chyfarpar cymorth cyntaf milfeddygol yn cael eu darparu a'u cynnal
  • bod gweithdrefnau priodol ar waith i ddiogelu a symud y ceffylau os digwydd tân ac, fel rhan o hyn, bod enw, cyfeiriad a rhif ffôn deiliad y drwydded yn cael eu harddangos y tu allan i'r safle a bod cyfarwyddiadau tân yn cael eu harddangos
  • bod cyfleusterau storio ar gyfer porthiant, deunydd gwely, offer stabl a chyfrwyaeth wedi'u darparu

Yn ogystal ag unrhyw amodau eraill, mae'n rhaid i drwydded ar gyfer sefydliad marchogaeth fod yn destun yr amodau canlynol:

 

  • na chaiff unrhyw geffyl a archwiliwyd gan swyddog awdurdodedig ac y cafwyd bod angen sylw milfeddygol arno, ei ddychwelyd i weithio hyd nes bod deiliad y drwydded wedi cael tystysgrif gan filfeddyg yn cadarnhau bod y ceffyl yn addas i weithio
  • na chaiff ceffyl ei roi ar fenthyg na'i ddefnyddio ar gyfer dysgu marchogaeth heb oruchwyliaeth unigolyn cyfrifol 16 oed neu'n hŷn, oni bai bod deiliad y drwydded yn fodlon nad oes angen goruchwyliaeth ar y marchogwr
  • na chaiff y busnes ei adael yng ngofal unigolyn sydd o dan 16 oed
  • bod gan ddeiliad y drwydded yswiriant indemniad
  • bod deiliad y drwydded yn cadw cofrestr o'r holl geffylau yn ei feddiant sy'n dair oed neu'n iau a bod y gofrestr ar gael i'w harchwilio ar bob adeg resymol

Os oes unrhyw feysydd y mae angen eu gwella, byddwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn i chi gydymffurfio â'r amodau trwyddedu.

 

Pan fydd eich safle wedi cael ei drwyddedu fel sefydliad marchogaeth, byddwn yn arolygu fel y bo'n briodol ac ar adeg adnewyddu'r drwydded, ond gallwn hefyd gynnal ymweliadau achlysurol. Fel rhan o'r broses drwyddedu, bydd angen i'r sawl sy'n rhedeg y busnes roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'r busnes.

 

Sylwch, gallai rhai o fanylion y sefydliad marchogaeth gael eu cynnwys ar ein gwefan a gallem rannu'r manylion gyda chyrff statudol eraill hefyd fel y bo'n briodol.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Nid yw cymeradwyaeth ddealledig yn berthnasol i'r drwydded hon oherwydd, er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn 28 diwrnod, cysylltwch â ni i gael diweddariad ynghylch eich cais.  

 

Sylwch, bydd y broses gymeradwyo gyfan yn cymryd mwy na 28 diwrnod er mwyn caniatáu am y prosesau arolygu angenrheidiol.

Apeliadau a Chwynion

Gall deiliad trwydded sy'n dymuno apelio yn erbyn amod gyflwyno apêl i'r llys ynadon lleol.

 

Os caiff eich cais ei wrthod, neu os nad ydych yn derbyn unrhyw rai o'r amodau trwydded a osodir fel rhan o'r gymeradwyaeth, dylech gysylltu â'r swyddog sy'n delio â'ch trwydded yn y lle cyntaf. 

 

Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am y gweithdrefnau apelio pan fyddwn yn gwrthod trwydded, neu ar gais. Hefyd, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein gweithdrefn gwyno os ydych o'r farn na chafodd eich cais ei brosesu'n briodol. 

Cymdeithasau Masnach

Cymdeithas Ysgolion Marchogaeth Prydain (ABRS)

 

Dressage Prydain

 

Ffederasiwn Marchogaeth Prydain (BEF)

 

Cymdeithas Masnach Farchogol Prydain (BETA)

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 07/03/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Masnachol

Ffôn: 01633 647263

E-bost: commercial.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig